Mae 213 o ddisgyblion blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, Sir Ddinbych, yn ogystal â 34 o ddisgyblion eraill yn gorfod hunanynysu tan ddydd Llun nesaf (Mai 17) yn dilyn cadarnhad o achos o’r coronafeirws yn yr ysgol.

Mae’r holl rieni a gofalwyr wedi cael eu hysbysu.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych maen nhw a’r ysgol yn cydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru i sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach.

Mae’r ysgol yn parhau i fod ar agor i weddill disgyblion yr ysgol.