“D’yw S4C ddim yn gwneud digon i ddysgwyr” yn ôl dysgwraig o Lanelli, sydd bron â gorffen blwyddyn gyntaf cwrs dysgu Cymraeg Lefel Uwch.
Dywedodd Rhian Hewitt-Davies nad yw niferoedd dysgwyr Cymraeg yn cael ei adlewyrchu yn narpariaeth S4C, ac yr hoffai weld o leiaf 60 awr yr wythnos o ddarpariaeth i ddysgwyr.
Bu Rhian Hewitt-Davies, sydd a Syndrom Aspergers, yn dysgu Saesneg fel ail iaith i ffoaduriaid yn Lloegr ers pum mlynedd, ac er bod ganddi wybodaeth ynghylch dysgu ieithoedd mae hi’n wynebu gadael y cwrs Cymraeg a pheidio clywed fawr ddim o’r iaith wedyn, meddai.
Gan nad ydy hi, fel nifer o ddysgwyr eraill, meddai, yn clywed yr iaith yn aml, mae hi’n troi at S4C.
Yn ôl Rhian Hewitt-Davies, mae pawb yn siarad yn rhy sydyn ar S4C, ac mae hi’n credu fod gan y sianel le i wneud mwy i helpu dysgwyr i ddod yn rhan o gymdeithas siaradwyr Cymraeg.
Mae hi’n pwysleisio wrth golwg360 y bydd hi’n gwylio’r rhaglenni y mae’r sianel wedi’u hargymell iddi, ac yn gwneud ymchwil pellach, ond mae hi’n “benderfynol” o ddechrau ymgyrch i “Agor S4C i Ddysgwyr”.
S4C “ddim yn gwneud digon”
Mae yna gyfanswm o 1.5 miliwn o bobol wedi dysgu Cymraeg drwy Duolingo, “heb sôn am y rhai mewn dosbarthiadau Cymraeg ar draws Gymru, felly mae’n debyg bod yn nes at ddwy filiwn o ddysgwyr,” meddai Rhian Hewitt-Davies, a fu’n dysgu Cymraeg iddi hi ei hun ers sawl blwyddyn, cyn troi at gwrs Cymraeg Lefel Uwch.
Yn ôl ystadegau diwethaf y Llywodraeth, mae yn 872,200 o siaradwyr Cymraeg, ac yn ôl Rhian Hewitt-Davies “d’yw hynny ddim yn cael ei adlewyrchu ar S4C”.
“Cymraeg yw un o’r ieithoedd anoddaf yn Ewrop i’w dysgu, mae’n cymryd dwbl yr amser o gymharu â dysgu Ffrangeg, er enghraifft.
“Mae hi’n iaith anodd iawn, dw i’n ei chael hi’n anodd iawn.
“A dw i’n meddwl y dylem ni dderbyn mwy o gymorth. O ystyried y cyflwr y mae’r iaith ynddi ar hyn o bryd, d’yw S4C ddim yn gwneud digon i ddysgwyr, os yda chi’n gofyn i mi.”
Mae ar ddysgwyr fwy o angen S4C ar gyfer ymarfer eu Cymraeg, na siaradwyr rhugl, yn ôl Rhian Hewitt-Davies.
“Mae gan siaradwyr rhugl ei gilydd, eu cymunedau,” esboniodd wrth golwg360.
“Mae pobol yn gadael dosbarthiadau Cymraeg, ac maen nhw’n rhoi’r gorau iddi, ac yn anghofio’r [iaith], gan nad oes ganddyn nhw neb i siarad â nhw.
“Dy’n nhw ddim yn clywed yr iaith. Dw i wedi bod yn clywed straeon am hyn gan diwtor Cymraeg, a dyma sy’n fy wynebu i nawr.
“Dw i ar fin gorffen fy mlwyddyn gyntaf fel Lefel Uwch, ac ni alla i ddod o hyd i neb yn Llanelli sy’n siarad Cymraeg. Dw i ddim yn clywed yr iaith.”
“Dod yn rhan o’r gymdeithas”
“Dw i’n rhoi S4C ymlaen i gael ymarfer gwrando, a bydd hynny’n gwneud i mi feddwl, ac yn fy atgoffa o’r eirfa,” eglurodd.
“Ond maen nhw’n siarad rhy sydyn. Nid oes help gyda’r eirfa, nid oes rhaglenni sy’n addysgu fi am Gymru er mwyn i mi ddod yn rhan.
“Dw i isio dod yn rhan o gymdeithas,” meddai Rhian Hewitt-Davies, a newidiodd ei henw pan oedd hi yn ei thridegau gan ei bod hi “wrth ei bodd” ag enwau traddodiadol Cymraeg.
“Byddwn i’n hoffi cael rhaglenni am hanes Cymru, daearyddiaeth Cymru, gwahanol drefi, gwahanol rannau, sut lefydd ydyn nhw, materion cyfoes – ond i gyd wedi’u hanelu at ddysgwyr, i Lefel Uwch, os nad Canolradd hefyd.”
Mae Rhian Hewitt-Davies wedi ysgrifennu at S4C, ac fe wnaeth Gwifren Gwylwyr y sianel fanylu ar y rhaglenni sydd ganddyn nhw ar gyfer dysgwyr.
Er bod rhan fwyaf o’u cynnwys i ddysgwyr ar-lein, fe wnaeth y sianel argymell rhaglenni i ddysgwyr megis Iaith ar Daith, Adre, Codi Pac, Y Sioe Fwyd, a rhaglen newyddion wythnosol Yr Wythnos iddi.
Roedd Rhian Hewitt-Davies yn pwysleisio ei bod hi am fynd ati i wylio’r rhaglenni hyn, ac edrych ar gynnwys ar-lein S4C i ddysgwyr.
“Dechrau ymgyrch”
“Yn fy marn i, dylem ni gael o leiaf 60 awr yr wythnos ar gyfer dysgwyr, os nad mwy. [Mae dysgwyr] wir angen help wrth wrando,” meddai.
“Dylai S4C gael gwefan arbennig ar gyfer dysgwyr, lle mae posib dod o hyd i bobol eraill i ymarfer [ein Cymraeg], cyfarfod pobol eraill, a ffurfio grwpiau yn ein hardal i siarad am raglenni, pa fath o raglenni hoffem ni eu gweld yn y dyfodol, ac er mwyn dod yn rhan o’r rhaglenni.
“Dw i am edrych ar y rhaglenni y maen nhw wedi’u hargymell i fi, ac maen nhw hefyd wedi argymell edrych ar y cynnwys sydd ganddyn nhw ar Dysgu Cymraeg er mwyn dod o hyd i hen raglenni.
“Dw i am ddilyn eu holl argymhellion, a dw i am weld faint mae hynny’n newid fy marn ar hyn.
“Ond dw i’n dechrau ymgyrch – ‘Agorwch S4C i Ddysgwyr’. Dw i’n benderfynol, dw i’n rhwystredig, dw i’n wynebu gorffen y cwrs, a dw i’n anghofio’r hyn dw i wedi’i ddysgu yn barod.
“Does gen i’r un lle i fynd [ar ôl gorffen y cwrs], drwy raglenni S4C dw i eisiau gwybod os alla’i ddod yn rhan o gymdeithas Gymraeg.
“Dw i’n teimlo mod i’n gorfod sefyll fyny dros ddysgwyr eraill, a defnyddio fy hun fel esiampl i weld os ydw i am allu dod yn rhan o gymdeithas.
“Os fedra i wneud hynny, fedra i ddangos i eraill nad ydy pethau am orffen pan mae’r cwrs yn dod i ben.
“Mae’n siŵr y bysa hyn yn helpu’r iaith Gymraeg hefyd.”
Mae Rhian Hewitt-Davies yn pwysleisio ei bod hi’n “hollol ymwybodol” ei bod hi angen darganfod be sy’n bosib cyn penderfynu ar ei hymgyrch, a phenderfynu beth fydd dysgwyr ei eisiau.
Yn ogystal, mae hi’n dweud yn glir mai “cais” fydd ei hymgyrch i S4C, nid cwyn, ac roedd hi’n chwerthin wrth sylwi bod y mwyafrif – hynny yw, dysgwyr – yn cwyno i’r lleiafrif.
“Dw i’n gobeithio y byddai’n mynd lawr yn hanes Cymru fel y ddynes a newidiodd pethau.”
Ymateb S4C
“Mae creu darpariaeth i ddysgwyr yn rhan bwysig o’n gwasanaeth ac rydym mewn ymgynghoriad cyson gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran S4C.
“Mae cyfresi diweddar fel Iaith ar Daith, Bwrdd i Dri, Adre, Y Sioe Fwyd a Codi Pac wedi eu cynhyrchu yn arbennig gyda dysgwyr mewn golwg ac wedi eu hamserlennu yn ystod ein horiau brig.
“Yn ogystal rydym wedi buddsoddi ymhellach gan greu clipiau tu ôl i’r llen ar gyfer Iaith ar Daith yn dangos y broses o ddysgu Cymraeg gan edrych yn fanwl ar y gwersi a chyfweliadau gyda’r selebs.
“Mae ein rhaglen newyddion wythnosol ‘Yr Wythnos’ wedi ei dargedu yn benodol ar gyfer dysgwyr hefyd, ac mae ein sianel YouTube Dysgu Cymraeg yn uwchlwytho ffilmiau byr newydd ddwy waith yr wythnos.
“Mae’r holl gynnwys yma hefyd yn cael ei rannu ar ein cyfrifon Dysgu Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. ”