Mae S4C wedi cyhoeddi bydd yr opera sebon Rownd a Rownd yn darlledu trwy gydol yr haf eleni, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Bydd toriad yn yr amserlen ar gyfer Eisteddfod T ac wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ynghyd â’r cyhoeddiad, daeth cadarnhad y bydd Rownd a Rownd yn dychwelyd i’r sgrin ddwywaith yr wythnos o Fai 18 ymlaen.
Bydd penodau yn cael eu darlledu bob nos Fawrth a nos Iau am 8:25yh.
Cwtogi
Bu’n rhaid cwtogi penodau Rownd a Rownd i un bennod yr wythnos ganol fis Mawrth gan fod cyfyngiadau covid wedi cael effaith ar yr amserlen gynhyrchu.
“Rydyn ni’n hynod falch fel criw a chast y bydd Rownd a Rownd yn ôl i’r ddwy bennod wythnosol arferol o ddydd Mawrth, 18 Mai ymlaen,” meddai Manon Lewis Owen, cynhyrchydd y gyfres.
“Rydym wedi gwerthfawrogi cefnogaeth ein gwylwyr yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf ac yn edrych ymlaen at adrodd mwy o hanesion o’r llon i’r lleddf gydag ambell ddigwyddiad annisgwyl ar y gorwel.”
“Sawl stori gyffrous ar y gweill”
Ychwanegodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae Rownd a Rownd yn un o gyfresi mwyaf poblogaidd ein hamserlen, ac mae’n newyddion gwych y bydd ffans nawr yn gallu mwynhau hynt a helynt trigolion Glanrafon drwy gydol yr haf.
“Rydyn ni’n falch iawn hefyd o fod nôl yn darlledu dwy bennod yr wythnos i gynnig patrwm sefydlog i’n gwylwyr.
“Mae ‘na sawl stori gyffrous ar y gweill sy’n siŵr o gadw’n gwylwyr ar flaenau eu seddi!”