Bydd cyngerdd digidol gyda grŵp o gantorion ifanc o Sir Ddinbych yn lansio Eisteddfod rithwir yr Urdd eleni.
Cafodd y cyngerdd ei drefnu gan Steffan Hughes, sy’n gerddor, enillydd Eisteddfod, a chôr feistr o Langwyfan yn Nyffryn Clwyd.
Roedd disgwyl i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gael ei chynnal yn Ninbych llynedd, ond mae hi bellach wedi ei gohirio nes 2022.
Y llynedd, fe wnaeth yr Urdd gynnal digwyddiad rhithiol, Eisteddfod T, ac fe wnaeth 6,000 o gystadleuwyr gymryd rhan.
Mae Eisteddfod T yn ei hôl eleni, a sioe ‘Steffan Rhys Hughes a Thalentau Sir Ddinbych’ fydd yn agor yr wythnos.
Cafodd ei recordio o flaen llaw yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, a bydd yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar-lein gan S4C ar nos Sul, Mai 30 am 7pm.
Ymhlith y perfformwyr mae’r gantores-gyfansoddwraig Mared Williams, sy’n perfformio’n Les Miserable yn Llundain ar hyn o bryd, a Celyn Cartwright, a fydd yn canu deuawd gydag Arwel Lloyd.
“Llwyfan amlwg i gyfoeth o sêr”
Steffan Rhys Hughes fydd yn cyflwyno’r cyngerdd, a bydd yntau’n perfformio hefyd.
“Mae’n rhoi llwyfan amlwg i’r cyfoeth o sêr canu ifanc sydd gennym yn Sir Ddinbych ac yn talu teyrnged i’r ffaith bod llawer ohonyn nhw wedi mireinio eu crefft trwy gystadlu yng nghystadlaethau Eisteddfod yr Urdd yn y gorffennol,” meddai Steffan Rhys Hughes, sy’n 25 oed.
“Mae’n ffantastig bod Ifor Williams Trailers yn noddi’r cyngerdd ac roedd hi’n wych gallu ei recordio yn Theatr Clwyd, lleoliad perfformio sy’n agos iawn at galonnau pob un ohonom.
“Roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi gyflwyno’r cyngerdd gan ei bod yn ffordd i mi dalu gwrogaeth i’m gwreiddiau diwylliannol.
“Mi wnaethon ni ddod â grŵp o berfformwyr at ei gilydd sydd yn ffrindiau da, a dweud y gwir roeddwn yn yr ysgol efo llawer ohonyn nhw. Ers hynny, maen nhw wedi mynd ymlaen i dorri eu cwys eu hunain fel perfformwyr addawol.
“Rydym i gyd yn teimlo ei bod hi mor bwysig cefnogi’r Urdd a’r traddodiad eisteddfodol yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn,” esboniodd.
“Mi wnaeth cymaint o’n cerddorion, awduron ac artistiaid amlycaf ddysgu eu crefft trwy ddiwylliant yr eisteddfod.
“Mae pob un ohonom sy’n perfformio yn y cyngerdd hwn wedi cystadlu yn yr Urdd ac rydym yn gwybod o brofiad pa mor werthfawr yw hyrwyddo cerddoriaeth o safon yng Nghymru.”
“Fel teulu estynedig”
Mae’r cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiad gan bedwarawd clasurol sydd wedi dod at ei gilydd ar gyfer y noson.
Bydd Sion Eilir Roberts, Elis Jones, Ruth Erin Roberts, a Ceri Haf Roberts yn perfformio dan gan y cyfansoddwr Robat Arwyn, sydd hefyd yn lleol i ardal yr Eisteddfod.
“Mae’r perfformwyr i gyd fel teulu estynedig, ffrindiau sydd wrth eu boddau yn gwneud cerddoriaeth a difyrru pobl,” meddai Sion Eilir Roberts.
“Mae pawb ohonom wedi colli perfformio a chreu cerddoriaeth fyw gyda’n gilydd yn ystod y pandemig a’r cyfnodau clo. Mae wedi bod yn anodd i bawb ar y sîn gerddorol a chelfyddydol leol.
“Yn wreiddiol roeddem i fod i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych y llynedd ac roeddem wedi helpu i ffurfio côr Aelwyd Dyffryn Clwyd, a oedd fod i gystadlu.
“Roedd pawb yn siomedig dros ben pan gafodd yr ŵyl ei gohirio er ein bod ni i gyd yn deall y rhesymau pam.”
“Pwysig cefnogi”
“Eleni mae’n arbennig o bwysig cefnogi gyrfaoedd cerddorion a chantorion ifanc ledled y rhanbarth,” meddai Rob Small, Pennaeth Gwerthiant gydag Ifor Williams Trailers, y cwmni sy’n noddi’r sioe.
“Mae’r Urdd wedi gwneud cymaint i gadarnhau enw da Cymru fel gwlad y gân, ac mae cyngherddau fel hyn yn sicrhau nad ydym yn colli ein cariad at gerddoriaeth a’n gwreiddiau diwylliannol, waeth pa mor fawr yw’r argyfwng rydym yn ei wynebu.
“Mae’r cyngerdd yma’n rhoi llwyfan i rai o leisiau gorau Sir Ddinbych ac yn rhoi nod i bobl ifanc anelu tuag ato. Maen nhw’n gantorion ifanc anhygoel ac rwy’n siŵr y bydd y cyngerdd yn un gwirioneddol gofiadwy.”
“Blwyddyn anodd dros ben”
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Steffan ac Ifor Williams Trailers sy’n gefnogwyr selog i Eisteddfod yr Urdd ac mae eu cefnogaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr,” ychwanegodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Dros Dro Eisteddfod yr Urdd.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd dros ben i bawb oherwydd Covid ac ar adegau fel hyn rydych chi’n darganfod pwy yw’ch gwir ffrindiau.
“Rwy’n siŵr y bydd y cyngerdd agoriadol ar Fai 30 yn bleser i’w wylio ac y bydd yn agoriad rhagorol i wythnos fendigedig ar-lein o ddigwyddiadau Eisteddfod T.”
Mae posib prynu e-docynnau ar wefan Eisteddfod yr Urdd, a bydd y ddolen yn cael eu danfon at unrhyw un sy’n prynu tocyn cyn y digwyddiad er mwyn eu galluogi i weld y cyngerdd ar unrhyw ddyfais ddigidol.
Bydd y sioe ar gael i’w gwylio am 48 awr ar ôl y darllediad cyntaf ar Fai 30.