Mae criw ifanc o ogledd orllewin Cymru wedi derbyn grant a fydd yn caniatáu iddyn nhw “fod yn uchelgeisiol” wrth drefnu gigs, ac yn helpu i sicrhau fod pobol ifanc yr ardal yn cael cyfleoedd teg yn y sector cerddorol.
Ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Gigs Tŷ Nain wedi derbyn arian gan Youth Music er mwyn cefnogi pobol ifanc 18 i 25 oed sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant cerddorol.
Yn ôl un o aelodau tîm cynhyrchu Gigs Tŷ Nain, bydd yr arian yn golygu eu bod nhw’n gallu cyfrannu tuag at ailfywiogi’r sîn gerddoriaeth, a bydd elfen o fentora’n rhan o’r grant.
Gan dargedu pobol ifanc yn y Gogledd Orllewin, bydd yr arian yn caniatáu i’r criw helpu i sicrhau na fydd “neb dan anfantais oherwydd o le maen nhw’n dod”, meddai Llew Glyn.
Cafodd gig rithiol cyntaf Gigs Tŷ Nain ei darlledu ar Ddydd Calan eleni, ac roedd yn cynnwys perfformiadau gan Gwilym, Alffa, Elis Derby, a Malan.
“Ailfywiogi’r sîn”
Yn ôl Llew Glyn, sy’n aelod o’r band Gwilym, roedd yr ymateb i’r gig cyntaf “mor dda, roedden ni’n teimlo’n syth ar ôl y noson yna bod o ddim am fod yn one-off”.
“O fewn wythnos, roedden ni wedi dechrau meddwl am y nesaf achos ein bod ni wedi cyffroi gymaint.
“Fe wnaeth yr Eisteddfod ddod atom ni isio helpu ni, a gweithio efo ni, i drïo am y grant yma mae Youth Music yn gynnig, i ailfywiogi’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru,” esboniodd Llew Glyn, un o’r naw aelod sy’n rhan o dîm cynhyrchu Gigs Tŷ Nain, wrth golwg360.
“Mae Youth Music yn gweithio dros Brydain i gyd, ond yn amlwg efo be rydyn ni’n ei wneud efo’r Eisteddfod, yng Nghymru fydd o. Yn fwy penodol, yng ngogledd orllewin Cymru.
Roedd darganfod eu bod nhw’n un o’r criwiau sydd wedi derbyn un o grantiau Youth Music, yn “hollol anhygoel” meddai Llew Glyn.
“Dw i’n meddwl mai dyna’r gair gorau i’w ddisgrifio fo!
“Yn amlwg efo’r Gig Tŷ Nain cyntaf fe wnaethon ni wneud o ar gyllid mor fach, dw i’n meddwl mai tua £600 – £700 wnaeth o gyd gostio, ac fe gawsom ni ymateb mor dda i hynny.
“Mae’r grant yma am ein galluogi ni i weithio ar hynny, a fydd o’n galluogi ni i wneud popeth yn well – rhoi mwy o sylw i’r pethau roedden ni’n meddwl oedd angen eu gwella ers y tro diwethaf – a gallu rhoi gigs yn ôl ymlaen.
“Gobeithio y bydden nhw’n dechrau’n ôl mewn ychydig fisoedd, felly pan fydd gigs yn dechrau’n ôl fyddwn ni’n gallu gwneud nhw’n iawn, a ddim yn gorfod dechrau gwneud pob dim gyda chyllid bach.
“Fyddwn ni’n gallu bod reit uchelgeisiol efo’r grant yma.”
“Profiad gwych” gweithio gyda “chewri celfyddydol”
“Hefyd mae yna ochr mentora i’r grant. Roedd yr Eisteddfod yn helpu ni i drefnu pwy fysa ni’n licio’i gael i ddod i’n mentora ni ar gyfer rhoi digwyddiadau o’r math yma ymlaen,” eglurodd Llew Glyn.
“Dyna oedd Youth Music isio, targedu pobol ifanc sydd isio gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
“Gobeithio y byddwn ni’n gallu dysgu pethau am gynnal gigs byw, am ffilmio a recordio nhw a ballu, ac ein bod ni, yn ein tro wedyn, yn gallu pasio hynny ymlaen i bobol ifanc fydd yn dod yn rhan o’r cynllun.
Dywedodd Llew Glyn ei fod yntau, a gweddill trefnwyr Gigs Tŷ Nain, yn “edrych ymlaen” at gael cydweithio mwy gyda’r Eisteddfod Genedlaethol.
“Maen nhw’n gewri celfyddydol yng Nghymru, dydyn?
“Mae cael gweithio efo criw mor brofiadol, sy’n gwybod yn union be maen nhw’n ei wneud, a be maen nhw isio, am fod yn brofiad gwych i ni gyd.
“Fyddwn ni’n dysgu lot ganddyn nhw, a gobeithio fod o’n wybodaeth allwn ni basio ymlaen at bobol eraill.”
Cyfleoedd teg i ardaloedd gwledig
“Y grŵp fyddwn ni’n ei dargedu fydd ardaloedd gwledig, felly gogledd orllewin Cymru,” esboniodd Llew Glyn.
“Roedd yna adroddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru am y sector cerddoriaeth fyw, ac roedd o’n dangos fod yna lai o hyrwyddwyr a gigs ochra ni yn y gogledd orllewin. A llai o gyfleoedd i bobol ifanc.
“Oherwydd y pellter rhwng pobol, diffyg lleoliadau addas, a llai o sefydliadau celfyddydol, bron ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu efo ardaloedd prysurach fel Caerdydd.
“Be ydan ni isio ei wneud ydi rhoi’r cyfleoedd yna i bobol ifanc yng ngogledd orllewin Cymru, rhoi’r un cyfleoedd a fysa bandiau ifanc yn ei gael yng Nghaerdydd, fel eu bod nhw ddim o dan anfantais oherwydd o le maen nhw’n dod.”