Tafwyl fydd yr ŵyl gyntaf yng Nghymru i gael croesawu cynulleidfa fyw ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth y llynedd.
Rhwng 5pm a 9pm ddydd Sadwrn 15 Mai, os bydd amodau’n caniatáu, bydd hyd at 500 o bobl yn cael mynychu’r digwyddiad fesul grwp o rhwng pedwar a chwech o bobl.
Gallwch gofrestru am y cyfle i fod yn rhan o’r gynulleidfa yma. Bydd cofrestru’n cau am 7pm dydd Gwener (7 Mai).
I fynd bydd angen cyflwyno tystiolaeth o ddau brawf Covid negyddol, un prawf PCR hyd at bum niwrnod cyn y digwyddiad a phrawf LFD cyflym 24 awr cyn i’r digwyddiad ddechrau.
Newyddion cyffrous! Bydd #Tafwyl21 ar agor i gynulleidfa o 500 o bobl a fydd yn cynnwys partïon rhwng 4 a 6 o bobl rhwng 5yh a 9yh ddydd Sadwrn 15 Mai, yn @CastellCaerdydd os bydd amodau yn caniatáu.? pic.twitter.com/IU5YH9FpFO
— Tafwyl (@Tafwyl) May 6, 2021
- Gallwch ddarllen mwy am arlwy’r ŵyl isod.