Gyda’r Deyrnas Gyfunol ar ei gwely angau – yn ôl rhai – mae ceiliog arall wedi llamu i’r talwrn.

GB News yw’r ceiliog cynddeiriog dan sylw, ac mi lansiwyd y sianel newyddion hon dros y penwythnos.

Atgyfnerthu balchder Prydeinig yw un o’i phrif amcanion, ac ymhlith y rheiny a fydd yn cyflwyno ei rhaglenni mae Andrew Neil, cyn-ddarlledwr y BBC a gefnodd ar y gorfforaeth y llynedd.