Mae Boris Johnson wedi amddiffyn ei agwedd tuag at daclo’r pandemig byd eang gan gynnig o leiaf 100 miliwn dos o’r brechlyn Covid i rai o wledydd tlota’r byd.

Fe wnaeth y Prif Weinidog ei addewid wrth i arweinwyr rhai o wledydd mwya’ cyfoethog y bydd ddod ynghyd yng Nghernyw heddiw (Dydd Gwener, Mehefin 11).

Mae disgwyl i’r grŵp o saith o wledydd – sy’n cynnwys y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Canada, Japan, Ffrainc, yr Almaen a’ Eidal – gytuno ar y cyd i ddarparu biliwn dos o’r brechlyn Covid-19 mewn ymdrech i ddod a’r pandemig i ben yn 2022.

Fe fydd yr arweinwyr – sy’n cynnwys Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden – yn treulio heddiw yn trafod materion gan gynnwys y pandemig a newid hinsawdd, cyn i ddigwyddiad mawr gael ei gynnal heno yn yr Eden Project.

Fe fydd y Frenhines, ynghyd a Dug a Duges Caergrawnt, y Tywysog Charles a Duges Cernyw, yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae arweinwyr y gwledydd wedi bod dan bwysau i wneud mwy i ddiogelu’r byd rhag y firws. Mae Joe Biden eisoes wedi rhoi addewid i roi hanner biliwn o frechlynnau Pfizer i 92 o wledydd tlotaf Affrica.

O dan gynllun Boris Johnson, fe fydd y Deyrnas Unedig yn darparu pum miliwn dos erbyn diwedd mis Medi, gyda 25 miliwn yn rhagor erbyn diwedd 2021.

Ond mae o wedi gwrthod galwadau gan ymgyrchwyr i weithredu ymhellach.

Fe fydd holl oedolion y Deyrnas Unedig wedi cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn erbyn diwedd mis Gorffennaf o dan gynlluniau’r Llywodraeth.