Er bod Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth frechu’r boblogaeth, mae angen cynllun clir ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r wlad, meddai’r corff cyhoeddus, Archwilio Cymru.
Mae adroddiad Archwilio Cymru yn dweud bod angen cynllun hirdymor sy’n ystyried gwybodaeth am y feirws a brechlynnau wrth i’r sefyllfa esblygu.
Rhaid i’r cynllun hefyd ystyried sut i gynnal gweithlu ar gyfer y brechu, a sicrhau bod lefelau da yn barod i dderbyn y brechlynnau o fewn y gymuned.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y wlad “yn syml, yn fwy effeithiol yn defnyddio’r cyflenwad” o frechlynnau.
Yr adroddiad
Dywed adroddiad Archwilio Cymru fod strategaeth frechu Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymhelliant cryf i yrru’r rhaglen yn ei blaen, a bod y rhai sydd wedi bod yn ymwneud â gweithredu’r rhaglen wedi gweithio’n dda i sefydlu ystod o fodelau brechu.
Llwyddodd y modelau i wneud y defnydd gorau o’r brechlynnau sydd ar gael, meddai, gan gynnig cyfleoedd i frechu’n nes at y cymunedau.
Mae’r gyfradd sy’n derbyn brechlynnau yn uchel ar y cyfan, ond mae pryderon ynghylch y lefelau is ymhlith rhai grwpiau ethnig ac mewn cymunedau difreintiedig, yn ogystal â’r nifer sydd ddim yn mynychu apwyntiadau sydd wedi’u trefnu.
Dyweda’r adroddiad mai cyflenwad y brechlyn yw’r ffactor pwysicaf sy’n effeithio ar weithrediad y rhaglen, a bod hwnnw’n ddibynnol ar gyflenwad rhyngwladol.
Dangosa’r ymchwil mai dim ond 0.4% o’r holl frechlynnau a gafodd eu hystyried yn anaddas i’w defnyddio.
Galwadau
Mae Archwilio Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd i ddatblygu cynllun hirdymor i weithredu’r rhaglen frechu, gan gynnwys modelau cynaliadwy er mwyn i’r gweithlu allu ymateb i’r cyflenwad a’r galw wrth i wasanaethau eraill ailddechrau.
Yn ogystal, maen nhw’n dweud y dylid ystyried defnyddio elfennau cadarnhaol o’r rhaglen frechu ar gyfer strategaethau brechu ehangach, ac wrth gyflawni rhaglenni eraill o fewn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’n nhw’n galw hefyd am ystyried materion fel gwybodaeth am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau argyfnerthu, a chynnal cyfraddau derbyn da.
“Gwaith ymhell o fod ar ben”
“Mae Cymru wedi gwneud camau breision gyda’i rhaglen frechu yn erbyn COVID-19,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton.
“Mae cerrig milltir allweddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth wedi’u cyrraedd, a’r rhaglen yn mynd rhagddi’n dda, gyda chyfran sylweddol o boblogaeth Cymru bellach wedi’u brechu.
“Dyma gyflawniad aruthrol, ac mae’n tystio i waith caled ac ymroddiad yr holl unigolion a’r sefydliadau fu’n ymwneud â gweithredu’r rhaglen frechu hyd yma.
“Er hynny, mae’r gwaith ymhell o fod ar ben. Mae angen cynllun tymor hwy sy’n symud y tu hwnt i’r cerrig milltir presennol ac yn ystyried materion o bwys fel gwytnwch y gweithlu brechu, gwybodaeth sy’n datblygu am ddiogelwch brechlynnau, yr angen am ddosau atgyfnerthu, a chynnal cyfraddau derbyn da – yn enwedig yn y grwpiau hynny lle gwelwyd rhywfaint o betruster o ran derbyn brechlyn.”