Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i honiadau Matt Hancock fod Cymru’n gallu brechu’r boblogaeth yn gyflymach gan eu bod nhw’n gwybod fod posib iddyn nhw defnyddio Lloegr er mwyn cael gafael ar ail ddosau os oes rhaid.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Iechyd San Steffan y sylwadau wrth ymddangos gerbron panel o aelodau seneddol er mwyn ateb cwestiynau am y ffordd y mae e wedi ymdopi â’r pandemig.
Cafodd ei holi pam nad yw Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’n ymddangos, yn gwneud yr un fath â Chymru – sef brechu pobol cyn gynted â bod ganddyn nhw’r cyflenwad.
Dywedodd Matt Hancock y byddai’n cysylltu gydag Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ar ôl datgelu’r wybodaeth, a’i fod yn gyndyn o ateb y cwestiwn gan ei fod e’n “hoff iawn” o’i gydweithwyr yng Nghymru, ac nad yw e eisiau tanseilio eu gwaith.
“Sicrhau digon o gyflenwad”
“Rhaid i ni sicrhau bod digon o frechlynnau i bawb gael eu hail ddos waeth beth sy’n digwydd yn nhermau sicrhau’r cyflenwad,” meddai Matt Hancock.
“Felly rydyn ni’n sicrhau fod digon o buffer fel ein bod ni’n hyderus y bydd pobol yn cael eu hail ddos. Mae’n fater o farnu pa mor hir mae’n rhaid i’r buffer yna fod.
“Fe wnaeth ein cydweithwyr yng Nghymru benderfynu peidio cynnal y fath buffer, a mynd yn eu blaenau gan gymryd y bydd cyflenwad yn dod trwodd.
“Ond roedden nhw’n gwybod hefyd, pe bai’r cyflenwad yn cael ei amharu, y gallai buffer Lloegr gael ei ddefnyddio i sicrhau na fyddai neb yng Nghymru yn methu eu hail ddos.
“Doedd hynny ddim yn benderfyniad y gallwn i fod wedi ei wneud ar gyfer Lloegr oherwydd fedra i ddim defnyddio buffer neb arall.”
‘Yr undeb yn achub bywydau’
“Felly dw i’n cymryd mai’r hyn mae’n ei ddangos yw gwerth rhaglen frechu ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi cymryd agwedd [felly] er budd i bawb, gan gynnwys Cymru,” meddai wedyn.
“Byddwn ni’n dadlau fod y rhaglen frechu wedi dangos fod yr Undeb yn achub bywydau.
“Ac yn achos Cymru, mae’r Undeb wedi’u helpu nhw i gael un o’r rhaglenni brechu cyflymaf yn y byd.
“A dw i’n dymuno pob lwc iddyn nhw wrth ei chyflwyno.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Cynllunio gwych, gwaith caled, ac ymrwymiad timau brechu o amgylch Cymru sy’n gyfrifol am lwyddiant y rhaglen frechu gyflymaf yn y byd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’n anghywir awgrymu ein bod ni’n ddibynnol ar “buffer Seisnig” gan ein bod ni’n dal un ein hunain, ac, mewn gwirionedd, yn danfon cyfran llai o frechlynnau i’n canolfannau na gweddill cenhedloedd y Deyrnas Unedig.
“Rydyn ni’n syml yn fwy effeithiol yn defnyddio ein cyflenwad, gan wastraffu lleiaf posib er mwyn sicrhau fod pobol Cymru’n cael eu hamddiffyn rhag Covid mor sydyn â phosib.”
Ychwanega Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n parhau i asesu unrhyw beryglon i gyflenwad y brechlynnau yn y dyfodol, a dywedon nhw eu bod nhw wedi penderfynu blaenoriaethu ail ddosau ym mis Chwefror, cyn unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig.
Roedd hyn yn sicrhau na fydd neb yn aros hirach na deuddeg wythnos cyn cael yr ail ddos, sy’n rhoi lefelau uwch o warchodaeth, ac yn gwarchod am gyfnod hirach.
Hyd at Ddydd Llun (Mehefin 7), roedd 91% o’r brechlynnau sydd wedi cyrraedd y wlad wedi cael eu danfon i ganolfannau, a 97% o’r rheiny wedi’i defnyddio.
“Rydyn ni’n falch o’n perfformiad ac yn hapus i gael ein dal yn atebol, dyna pam ein bod ni, yn wahanol i genhedloedd eraill, yn cyhoeddi data am ein cyflenwad bob wythnos.”