Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu ymateb nifer o lywodraethau San Steffan i’r helynt heintio gwaed yn y 1970au a’r 1980au, wrth i ymgyrchydd o Gymru egluro ei bod hi’n galw am bolisi cenedlaethol.
Cafodd miloedd o bobol eu heintio â HIV a hepatitis C yng ngwledydd Prydain, a bu farw ryw 2,400 ohonyn nhw yn un o’r trychinebau triniaeth gwaethaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd.
Ond doedd dim meddygon arbenigol o Gymru yng nghyfarfodydd y Gynghrair Hemoffilia ar lefel Brydeinig, yn ôl Lynne Kelly o Hemoffilia Cymru.
Ac mae’n dweud bod y rheiny oedd yn y cyfarfod yn dweud nad “eu problem nhw” oedd y sefyllfa, yn groes i safbwynt clinigwyr yng Nghymru.
“Roedd fy nghefnder newydd farw [yn 2011], felly yn amlwg roedden ni wedi byw trwy’r profiad o aelod o’r teulu’n marw,” meddai.
“Ro’n i’n teimlo bod yr holl faterion ro’n i wedi’u casglu o’r cleifion yng Nghymru, yn amlwg o ran diffyg cefnogaeth ariannol, diffyg darpariaeth ar gyfer monitro hepatoleg, a doedd jyst dim awydd yn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi sylw i’r materion hynny.
“Es i fel cynrychiolydd Cymreig a fy nheimlad i oedd eu bod nhw’n gweld Cymru fel mater ymylol iawn, ac roedd hynny’n rywbeth oedd angen ei ddatrys yng Nghymru.
“Roedd pobol yn marw ac roedden nhw’n ceisio cyrraedd y cyfarfodydd – maen nhw’n teithio am filltiroedd i gyrraedd gan ddisgwyl y byddai rhywbeth yn cael ei wneud… fyddai cofnodion ddim yn cael eu cylchredeg, fydden ni ddim yn cael agenda, byddech chi’n cae eich hepgor oddi ar y rhestr cylchredeg.
“Ro’n i jyst yn teimlo fy mod i’n cael fy ngweld fel rhywun sy’n achosi trafferth mewn gwirionedd, oherwydd dw i’n mynd gyda fy rhestr o faterion, byddwn i’n cyflwyno’r materion oedd yn effeithio pobol yng Nghymru ond yn syml, maen nhw’n symud ymlaen i’r eitem nesaf ac yn dweud ‘o wel, problem Gymreig yw honnno’.
“Byddwn i’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn amlwg wedi cael eu briffio gan San Steffan, felly doedden nhw ddim yn teimlo bod angen ymchwiliad cyhoeddus.”
Mae’r ymchwiliad yn parhau.