Mae teulu Christopher Kapessa, bachgen 13 oed fu farw ar ôl cael ei wthio i mewn i afon, wedi ennill cais yn yr Uchel Lys am adolygiad o’r penderfyniad i beidio ag erlyn y llanc sydd wedi’i amau o fod yn gyfrifol.
Y gred yw fod Christopher Kapessa wedi cael ei wthio i mewn i afon Cynon gan fachgen 14 oed ym mis Gorffennaf 2019, ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â’i erlyn gan nad oedd er budd y cyhoedd.
Cafodd y penderfyniad i beidio ag erlyn ei gadarnhau mewn adolygiad gafodd ei gynnal gan Wasanaeth Erlyn ym mis Gorffennaf y llynedd wedi i deulu Christopher apelio.
Roedd hyn er gwaethaf cyfaddefiad fod “tystiolaeth i gefnogi erlyniad”.
Fe wnaeth Alina Joseph, mam Christopher, ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan ofyn i’r Uchel Lys adolygu eu penderfyniad.
Caniataodd y barnwr y cais ar bum sail, gan gynnwys bod penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi methu â “gwerthfawrogi bywyd dynol yn briodol” a bod “pwysau gormodol ac amhriodol” yn cael ei roi i effaith erlyniad ar y llanc.
Dywedodd Michael Mansfield QC, wrth y llys ar ran teulu Christopher “nad yw cydymdeimlad yn rhan o’r penderfyniad”.
“Ydy, mae’n berson ifanc, ond roedd y person fu farw yn ifanc hefyd,” meddai.
Dadleua Michael Mansfield fod diddordeb digon sylweddol gan y cyhoedd mewn erlyn a thystiolaeth i gynnal achos llys.
“Mae wedi mynd heibio’r trothwy tystiolaethol oherwydd bod yr honiad yma yn weithred anghyfreithlon sydd â meini prawf penodol iawn,” meddai.
“Mae’n anghyffredin iawn nad oes erlyniad am ddynladdiad unwaith y bydd y trothwy tystiolaethol wedi’i groesi.
“Rydyn ni’n dweud bod hwn yn achos lle byddai’r erlynydd yn siŵr o ddod i’r casgliad ei bod er budd y cyhoedd i’r materion hynny gael eu hadolygu.”
Hiliaeth sefydliadol?
Mae mam Christopher wedi dweud o’r blaen ei bod yn credu mai’r rheswm am y penderfyniad i beidio ag erlyn oedd oherwydd bod ei mab yn ddu, ac mae hi wedi cyhuddo Heddlu’r De a Gwasanaeth Erlyn y Goron o hiliaeth sefydliadol.
Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud o’r blaen nad yw hil yn chwarae unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau.
Clywodd yr Uchel Lys fod 16 o bobol ar safle’r digwyddiad, ac mae Michael Mansfield yn honni nad oedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn onest gyda’r heddlu.
“Mae’n amlwg bod y bobol ifanc – neu rai ohonyn nhw, dydyn ni ddim yn gwybod faint – wedi penderfynu naill ai gyda’i gilydd neu ar wahân nad oedden nhw’n mynd i ddatgelu pwy wnaeth beth, heb sôn am beth ddigwyddodd,” meddai.
“Pa fath o neges mae hynny’n ei chyfleu i gymuned pobol ifanc os nad yw’n cael ei erlyn?
“Ei bod hi’n iawn i ddweud celwydd? Ei bod yn iawn peidio â datgelu? Byddai dinesydd cyfrifol yn gweld hynny.”
Dadleua Duncan Penny QC, ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron, nad yw’r penderfyniad i erlyn yn awtomatig hyd yn oed os oes diddordeb mawr gan y cyhoedd, a bod dadleuon y teulu wedi’u bodloni yn yr adolygiad gwreiddiol gan y corff.
Bydd gan Wasanaeth Erlyn y Goron 21 diwrnod nawr i ddarparu tystiolaeth i baratoi ar gyfer yr adolygiad barnwrol, gan gynnwys y dystiolaeth a gafodd ei defnyddio i ddod i’r penderfyniad i beidio ag erlyn.