Mae mam bachgen 13 oed fu farw ar ôl cael ei wthio i afon Cynon fis Gorffennaf y llynedd wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio â dwyn achos mewn perthynas â’i farwolaeth.

Cafodd Christopher Kapessa ei wthio i’r afon fel rhan o weithred “ffôl” gan fachgen 14 oed fis Gorffennaf y llynedd.

Roedd Heddlu’r De wedi rhoi tystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron ond fe ddaethon nhw i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn achos o ddynladdiad er bod “tystiolaeth i gefnogi erlyniad”.

Yn dilyn apêl gan y teulu, maen nhw wedi cadw at eu penderfyniad gwreiddiol.

‘Trybestod a gofid emosiynol’

Yn ôl Alina Joseph, mam Christopher Kapessa, mae colli ei mab yn “achosi trybestod a gofid emosiynol” iddi o hyd ac mae’r penderfyniad i beidio â dwyn achos “yn mynd yn erbyn holl egwyddorion cydraddoldeb a chyfiawnder, a chyfiawnder y mae nifer o ymgyrchwyr wedi brwydro i’w ddileu ers blynyddoedd”.

“Mae pob anadl dw i’n ei gymryd heb fy mhlentyn, ac yn achosi trybestod a gofid emosiynol yn barhaus hyd y diwrnod hwn,” meddai.

“Yn drist iawn, mae fy mab Christopher hefyd wedi dioddef yn sgil methiannau sawl sefydliad sydd i fod i ddarparu gwasanaeth proffesiynol.

“Pryd fydd yr anghyfiawnderau’n dod i ben?

“Dw i hefyd yn gofyn, pe bai’r sefyllfa i’r gwrthwyneb, a fydden ni wedi cael yr un canlyniad?

“Dw i’n parhau i obeithio am gyfiawnder, ond mae’n ymddangos bod rhaid i fi frwydro amdano bob cyfle.”

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, doedd dim tystiolaeth “fod yr un sydd wedi’i amau wedi bwriadu achosi niwed” ac fe wnaethon nhw ystyried “oedran y bachgen 14 oed, ei ddiffyg cofnod troseddol blaenorol a’i gymeriad da”.

Ond maen nhw’n dweud hefyd eu bod yn “cydnabod y bydd ein penderfyniad yn ypsetio’r teulu sy’n teimlo efallai bod bywyd yr un dan amheuaeth wedi cael ei flaenoriaethu dros fywyd Christopher”.

Mae’r teulu’n cyhuddo Heddlu’r De a Gwasanaeth Erlyn y Goron o hiliaeth sefydliadol, ond mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwadu hynny ac mae’r teulu’n “ystyried eu hopsiynau”.

Cymharu ag achos Stephen Lawrence

Yn ôl y Monitoring Group, mudiad sy’n helpu’r teulu, mae modd cymharu’r achos ag achos llofruddiaeth Stephen Lawrence yn y 1990au.

“Bron i 26 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae disgwyl i deulu croenddu arall odde’r un gyfres o fethiannau a diodde’r un sefyllfa bryderus,” meddai llefarydd.

“Mae bywyd Christopher o bwys i ni, felly hefyd bywyd pob person croenddu arall, a wnawn ni’n syml iawn ddim rhoi’r gorau iddi hyd nes y cawn ni gyfiawnder.”

Mae’r teulu hefyd wedi cwyno wrth Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) am y modd y gwnaeth Heddlu’r De gynnal yr ymchwiliad, ac mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n croesawu’r “cyfle i ddysgu”.