Mae’n “drueni” bod cynghorwyr wedi cymryd cyhyd i gefnogi camau i ailgyflwyno tywod i draeth gogleddol Llandudno, yn ôl Philip Evans, cynghorydd ward Tudno ar Gyngor Sir Conwy, a gŵr sydd wedi bod yn galw am y fath gam ers dau ddegawd.

Ddechrau’r wythnos, penderfynodd cabinet y Cyngor Sir y byddai’n bwrw ati â chynlluniau £24m i waredu cerrig mân o Draeth y Gogledd ac i osod tywod a grwynau (groynes) yn eu lle.

Nod y cam yw i ddiogelu’r promenâd rhag tywydd garw, ac mi fydd y Cyngor yn mynd ati nawr i geisio cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae Philip Evans wedi bod yn galw am waredu’r cerrig ers blynyddoedd maith, ac mae yntau’n falch bod cynghorwyr bellach yn cydweld ag e.

“Mae stori’r cerrig ar y traeth yn mynd yn ôl cyn belled â 1993 pan gynigwyd [cyflwyno cerrig] am y tro cyntaf, yn lle morgloddiau,” meddai wrth golwg360.

“Bryd hynny roeddwn i, ac un neu ddau gynghorydd arall, yn frwd o blaid ailgyflwyno’r grwynau pren – isadeiledd glan môr sydd yn fwy traddodiadol.

“Maen nhw’n lleihau faint o dywod sy’n diflannu. Mae tywod yn symud ar hyd yr arfordir [o hyd].

“Cawsom ein gwawdio am hynny oherwydd y gost, a’r ddadl bod defnydd pren ddim yn dda i’r Amazon. Felly daeth dim o hynny.

“Yn sicr [dw i’n falch bod cynghorwyr newid meddwl],” atega. “Mae jest yn drueni bod hyn yn digwydd 20 mlynedd wedi i rai ohonom ddweud mai dyma y dylwn ni ei wneud. Ond dyna ni. Fel’na mae bywyd.”

Ar lan y môr

Mae’r cynghorydd yn egluro bod y Cyngor wedi gosod cerrig ar y traeth sawl gwaith (mae’r cerrig, wedi’r cwbl, yn cael eu llyncu gan y môr dros amser).

Mae Philip Evans yn cydnabod bod y cerrig a’r tywod/grwynau yn gwireddu’r un peth “o safbwynt peirianegol”.

Ond un o brif fanteision y grwynau yw bod modd cynnal traethau tywod, ac mae yna le i ddadlau bod traethau tywod yn fwy apelgar i dwristiaid.

“Yn sicr mae traeth tywodlyd yn gwneud [Llandudno] yn fwy deniadol, ac mae’n edrych yn neisach,” meddai’r cynghorydd.

“Ac mi fyddai’n annog plant ifanc i wneud cestyll tywod, chwarae gemau, ac ati. Ac mae hynny’n ychwanegu at bersonoliaeth cyrchfan glan-môr poblogaidd.”

Mae Philip Evans yn ei chael hi’n anodd penderfynu os yw twristiaeth wedi gostwng yn Llandudno yn ystod y blynyddoedd di-dywod.

“Beth sydd wedi gostwng, am wn i, yw’r niferoedd o deuluoedd sydd yn dod â phlant bach,” meddai. “Ond o ran niferoedd mae’n anodd ateb hynny.”

Y sefyllfa

Bydd gan y cynllun ailgyflwyno’r tywod a grwynau gost £24m, ac mae disgwyl mai £3.6m fydd siâr Cyngor Conwy o’r gwaith terfynol.

Bwriad y Cyngor yw i anfon cais fel eu bod yn derbyn swm o raglen ‘rheoli’r risg i’r arfordir’ £150m Llywodraeth Cymru.

Mae Prif Weithredwr Cyngor Conwy, Iwan Davies, wedi pwysleisio nad oes gan y cyngor gyllid digonol eto. O ganlyniad i hynny nid yw’n rhagweld y bydd y tywod yn cael ei gyflwyno yn y dyfodol agos.