Gallai ysgol gynradd yng ngogledd Powys ddod yn ysgol Gymraeg pe bai argymhelliad i’r Cabinet yn cael ei basio, meddai’r cyngor sir.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig newid cyfrwng y ddarpariaeth yn Ysgol Dyffryn Trannon yn Nhrefeglwys fel ei bod hi’n lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg.
Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn dod yn gwbl ddwyieithog.
Ar hyn o bryd, mae hi’n ysgol dwy ffrwd sy’n darparu addysg cyfrwng Saesneg a Chymraeg i ddisgyblion pedair i un mlwydd ar ddeg.
Y cynnig
Yn ôl y Cyngor Sir, bydd y cynnig yn eu helpu i gyflawni un o nodau ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2030, sef gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol.
Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad saith wythnos rhwng mis Chwefror a mis Ebrill eleni, a bydd y Cabinet yn ystyried casgliadau’r adroddiad ymgynghori ddydd Mawrth, Mehefin 22.
Mae gofyn i’r Cabinet barhau â’r broses o newid Ysgol Dyffryn Trannon i fod yn ysgol Gymraeg, a byddai’r newidiadau’n cael eu cyflwyno fesul cam, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022.
Fyddai’r newid arfaethedig ddim yn effeithio ar ddisgyblion sy’n mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, a byddai’r disgyblion sy’n derbyn eu haddysg drwy Saesneg wan yn parhau i wneud hynny.
Os bydd yn cael sêl bendith y Cabinet, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol sy’n cynnig y newid yn ffurfiol, a byddai’n ofynnol iddo ystyried adroddiad arall er mwyn cwblhau’r broses.
‘Argymell bwrw ymlaen’
“Hoffen ni ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn,” meddai Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys.
“Ar ôl ystyried yr holl ymatebion a gafwyd, byddaf yn argymell bod Cabinet yn bwrw ymlaen â’r cynnig drwy gyhoeddi’r hysbysiad statudol sy’n cynnig y newid yn ffurfiol.
“Er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, rydym am symud Ysgol Dyffryn Trannon ar hyd y continwwm iaith.
“Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
“Byddai hyn yn ei dro’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Bydd Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau’r cyngor yn ystyried y cynnig ddydd Mercher, Mehefin 16.