Mae cylchgrawn LHDTC+ cyntaf Cymru wedi cael ymateb hynod gadarnhaol, meddai un o olygyddion y cylchgrawn wrth golwg360.

Gwelodd Craig Stephenson fod yna fwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer y gymuned yng Nghymru ac, ar y cyd â chriw o wirfoddolwyr, aeth ati i sefydlu’r cylchgrawn digidol LGBTQYMRU.

Un o’r pethau pwysicaf ynghylch y cylchgrawn yw ei fod yn cael ei greu ar gyfer y gymuned gan y gymuned, meddai wrth ychwanegu ei fod yn berthnasol i bob rhan o Gymru.

Mae ail rifyn y cylchgrawn newydd gael ei gyhoeddi, gyda dros 100,000 o bobol wedi ymweld â’r wefan felly mae’r criw “yn gwybod fod diddordeb” yn eu gwaith, meddai.

I Craig Stephenson, sydd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd elusen LGBTQYMRU, roedd yn benderfynol o sicrhau fod y cylchgrawn yn ddwyieithog, ac yn parchu’r Gymraeg a’r Saesneg.

“Dyna’r dyfodol, dyna’r gap”

Daeth y criw at ei gilydd y llynedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf, er mwyn creu pwyllgor i ddatblygu Pride Rhithwir Cymru.

“Fe wnaethon ni roi’r Pride Rithwir ymlaen yn ystod mis Gorffennaf, ac wedyn roedden ni’n meddwl beth yw’r gap i’r gymuned LGBTQ yng Nghymru?'” esbonia Craig Stephenson, sy’n dod o’r Barri ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhenarth.

“Gaethom ni gyfarfod, ac fe wnaethon ni feddwl ‘Wel does dim cylchgrawn sy’n rhad ac am ddim, sy’n ddwyieithog, lle mae’r ffocws ar LGBTQ, ac sy’n covero pob rhan o Gymru.’

“So fe wnaethon ni setio hyn ymlaen, ‘Dyna’r dyfodol, dyna’r gap, dyna beth sydd angen i ni ei lenwi’.

“Felly fe wnaethon ni ddatblygu’r pwyllgor mewn i editorial board ar gyfer datblygu’r cylchgrawn, fi’n un o’r golygyddion, a Dirprwy Gadeirydd i’r elusen – fe wnaethon ni ddatblygu fel elusen hefyd.

“Ond fi’n hoffi gweithio fel golygydd ar y cylchgrawn achos dw i’n gweithio efo’r bobol sy’n datblygu a golygu storïau, ac yn edrych ar ôl un adran o’r cylchgrawn.

“Mae’n grêt, mae ychydig bach yn hands on.”

“Gyrru gan y gymuned”

“Y pwysigrwydd, i ddechrau, oedd bod yna gap fan hyn,” eglura Craig Stephenson wrth drafod pwysigrwydd y cylchgrawn.

“Un o’n mantras ni yw i’r gymuned, gan y gymuned, so mae e ar gyfer y gymuned LGBTQ, wrth gwrs, yng Nghymru ond y straeon maen nhw eisiau sôn amdanyn nhw.

“Dyna un o’r pethau pwysig i ni, bod e’n cael ei yrru gan y gymuned.

“So, ni’n estyn allan drwy social media ac ati i gael straeon, mae golygyddion ni mewn gwahanol rannau o Gymru fel ein bod ni’n cael straeon o wahanol lefydd, ac mae’r gohebyddion dros y lle i gyd yng Nghymru… ac mae un ohonyn nhw’n Cyprus hefyd, roedd e’n astudio fan hyn, wedyn oherwydd y cyfnod clo aeth e adre’ i Cyprus.

“Rhywbeth sy’n cael ei yrru gan y gymuned, sy’n berthnasol i’r gymuned.”

“Parchu’r ddwy iaith”

“Un o’r pethau oedd yn rili pwysig i mi, a doedd dim angen i fi yrru hwn yn galed iawn, oedd bod e ar gael yn y ddwy iaith,” meddai wedyn.

Mae Craig Stephenson yn gyn-Gyfarwyddwr Cysylltiadau gyda’r Senedd, a derbyniodd OBE am ei wasanaethau tuag at y Senedd a chydraddoldeb.

Fel rhan o’r rôl, un o’i gyfrifoldebau oedd polisi dwyieithrwydd, a bu’n gweithio tuag at wneud y Senedd yn sefydliad mwy dwyieithog.

“O ddydd i ddydd, ro’n i’n gweithredu ein cynllun ac yn gwthio i wneud y sefydliad yn fwy dwyieithog trwy’r amser.

“Mae hwnna’n rhywbeth sy’n agos iawn ata i fi, so fe wnes i ddweud y dylen ni wneud hwn yn ddwyieithog, a dyle popeth rydyn ni’n rhoi allan yn gyhoeddus fod yn ddwyieithog, ac fe wnaeth pawb gytuno.

“Rydyn ni’n gwneud hynny ar yr un pryd, er mwyn rhoi parch i’r ddwy iaith.”

“Job rili pwysig”

Daeth ail rifyn y cylchgrawn allan ar ddechrau’r mis, ac yn ôl Craig Stephenson, maen nhw’n brysur yn paratoi’r trydydd rhifyn ar hyn o bryd.

“Ni’n eithaf newydd, ni eisiau i bobol edrych ymlaen ato fe bob chwarter,” meddai.

Hyd yn hyn mae’r ymateb a’r gefnogaeth wedi bod yn “rili, rili da”, meddai wedyn.

“Ni’n cael adborth eithaf anffurfiol oddi wrth bobol yn dweud ‘Rydyn ni wedi bod angen hwn ers peth amser’, ‘Chi’n gwneud job rili pwysig, dal ati’ a phethau fel hynny.

“Fel arfer, y pethau sy’n cyfri yw’r niferoedd. Gaethon ni dros 80,000 o bobol yn dod at ein gwefan gyda rhifyn 1, ac erbyn hyn, ni just newydd gyhoeddi rhifyn 2, rydyn ni dros 100,000.

“So ni’n gwybod fod yna ddiddordeb yn fan yna, o wahanol lefydd yng Nghymru. Mae hynna’n rili da.

“Mae’r bobol sy’n gwneud y gwaith gohebu i ni fel arfer yn fyfyrwyr, fel arfer mewn schools of journalism, so rydyn ni wedi datblygu perthnasau gyda phrifysgolion ac ati.

“Ni wedi gwneud e’n strategol, ac i govero pob rhan o Gymru.

“Mae yna risg i ni, fod e’n edrych fel bod popeth yn digwydd yng Nghaerdydd oherwydd mai dyna le mae’r rhan fwyaf o’r gymuned LGBTQ.

“Dyna un o’r risgs wastad wrth i ni sortio sydd yn y rhifyn nesaf, sicrhau bod yna straeon yn dod o’r gorllewin, y dwyrain, y gogledd a’r de.

“Mae pawb yn gwirfoddoli, mae hynny’n dda hefyd. Mae pobol efo passion i roi’n ôl i’r gymuned.”