Cam craff a chall yw penderfyniad awdurdodau yn yr Unol Daleithiau i ddatgelu rhagor o wybodaeth am UFOs, yn ôl Geraint Iwan, gŵr a gyflwynodd cyfres i Hansh am Bethau Hedegog Anhysbys (Unidentified Flying Objects), ac sydd yn adnabyddus am gyd-gyflwyno Penwythnos Geth a Ger i BBC Radio Cymru.

Ddiwedd y mis hwn mae disgwyl i asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau roi adroddiad i’r Gyngres a fydd yn datgelu gwybodaeth am y ffenomen.

Roedd 120 o achosion yn destun ymchwiliad, ac mae adroddiad newyddion gan y New York Times yn awgrymu bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad nad oes tystiolaeth mai dyfeisiau estron yw’r rhain.

Er hynny, mae’n debyg nad yw’r ddogfen yn gwrthod y posibiliad yn llwyr, ac mae’n pwysleisio nad technoleg yr Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am yr achosion.

O fod wedi dilyn datblygiadau UFO am amser maith, dyw hyn ddim yn synnu Geraint Iwan.

“Na, dydi o ddim yn sioc o gwbl a bod yn onest,” meddai wrth golwg360.

“Wnaeth data dump fel’ma ddigwydd ryw bum, chwe mlynedd yn ôl.

“Mae o bron iawn yn rhywbeth alli di setio dy gloc iddo fo! … Mae o’n edrych i fi fel move eitha’ call ganddyn nhw.

“Maen nhw’n wneud o i stopio cael eu haslo yn fwy na dim byd.

“Union yr un ateb ydi o bob tro.

“Beth maen nhw’n ei ddeud i gadw pawb yn hapus ydi, ‘O, ia, mae yna bethau yn yr awyr ond dydi o’n ddim byd i wneud efo ni!’”

Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgelu tipyn o wybodaeth am UFOs yn 2010, a bod hynny wedi’i helpu i ddryllio theorïau cynllwyn am ymwelwyr o blanedau estron.

Dyw’r cyflwynydd erioed wedi gweld UFO, ac er ei fod yn credu ei bod yn debygol bod yna fywyd yng ngweddill y bydysawd, dydy e ddim yn credu bod estroniaid wedi ymweld â’r blaned hon.

Mae’n ffyddiog na fydd yr Unol Daleithiau yn dychwelyd y cyfan yn eu hadroddiad, ond mae’n credu y bydd hi’n gwneud hynny er diben diogelwch cenedlaethol – nid er mwyn celu gwybodaeth am estroniaid.

Estroniaid yn ymweld â Chymru?

Mae’r byd sydd ohoni yn llawn ffug-wybodaeth a theorïau cynllwyn di-sail, ond mae Geraint Iwan yn teimlo bod UFOs, fel pwnc, yn fater digon gwahanol.

“Mae yna sgwrs gallach rownd UFOs,” meddai.

“Mae sgwrs wyddonol yn dod law yn llaw efo fo.

“Mae yna sgwrs ynghylch sut fyddan nhw’n cyrraedd, ydi o’n bosib, beth fyddai’n bosib.

“Wedyn rwyt ti’n siarad am beth fyddai’n bosib i ni wneud – y camau ymlaen rydan ni’n medru eu gwneud.

“Dw i wrth fy modd efo’r elfen yna efo UFOs.

“Efo flat earth mae yna absolutely dim byd y tu ôl iddyn nhw.

“Efo UFOs mae’n agor sgwrs wyddonol ynglŷn â beth fyddai’n bosib [i’r dynol rhyw ei wireddu].”

Mae’r cyflwynydd yn gwrthod y syniad y gellid cyhoeddi adroddiad am achosion UFOs yng Nghymru, ond mae’n tynnu sylw yn eiddgar at achosion enwog.

Achos mynyddoedd y Berwyn ger y Bala ac Ysgol Gynradd Aberllydan ger Hwlffordd yw’r enwocaf yn ei dyb e.