Mae Mark Isherwood, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad ynghylch honiadau bod plant ag awtistiaeth wedi cael eu cam-drin mewn cartref gofal.

Yr wythnos hon, mae pedwar cyn-weithiwr yn Nhŷ Coryton yng Nghaerdydd wedi honni bod plant yn y cartref yn cael eu rhoi dan glo a’u rhwystro heb fod angen.

Dywed Mark Isherwood fod yr honiadau ynghylch y cartref, sydd hefyd yn ysgol arbenigol ar gyfer plant gydag anghenion yn ymwneud ag awtistiaeth, yn “symptomatig o lawer o’r gwaith achosion sydd gennyf i ar ran etholwyr Awtistig a/neu eu teuluoedd”.

Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i “fynd i’r afael â’r endemig a’r broblem ddofn hon” hefyd.

‘Endemig’

“Yn ôl yr adroddiadau, mae’r rhai wnaeth yr honiadau’n dweud bod y plant yn cael eu cosbi am ymgymryd ag ymddygiad awtistig, a bod iechyd a diogelwch y staff a’r plant yn gwbl syfrdanol, a bod pobol ifanc yn cael eu camreoli, felly’n ymddwyn mewn ffyrdd heriol a wnaeth arwain at eu rhoi nhw dan glo,” meddai Mark Isherwood yn y Senedd.

“Ond mae hyn yn symptomatig o lawer o’r gwaith achos sydd gennyf i ar ran etholwyr Awtistig a/neu eu teuluoedd, lle mae pobol sydd ar gyflog mawr sydd mewn pŵer, arbenigwyr honedig, yn methu â deall eu hawtistiaeth, yn methu adnabod eu gohebiaeth, synhwyrau ac anghenion prosesu er mwyn cyfathrebu â nhw mewn ffordd effeithiol a pharchus, gan wthio nhw at argyfwng ac yna eu cosbi nhw am beidio ymateb mewn ffordd niwronodweddiadol, neu bennaf niwronodweddiadol, gan effeithio ar eu gofal, gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, mynediad at dai a llawer o bethau eraill.

“Sut ar y ddaear ydyn ni am fynd i’r afael â’r endemig a’r broblem ddofn hon, sydd wedi cael ei chodi’n aml drwy’r Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth yn nhymhorau blaenorol y Senedd, heb osod dyletswyddau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a rhoi hunaniaeth statudol i awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol yng Nghymru o’r diwedd?”

Fe wnaeth Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, gytuno bod yr ymddygiad sy’n cael ei ddisgrifio yn “annerbyniol”, ond doedd ganddi hi ddim ateb i gwestiwn Mark Isherwood.

“Wrth fethu ag ateb fy nghwestiwn, mae’r Dirprwy Weinidog yn rhybuddio bod y Llywodraeth Lafur newydd hon yn dioddef o’r un hen anallu i wrando â’i rhagflaenwyr,” meddai Mark Isherwood wrth siarad ar ôl y cyfarfod yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Mehefin 10).