Mae Matt Hancock yn gwadu iddo dweud celwydd wrth Boris Johnson, wrth i’r Ysgrifennydd Iechyd gael ei gwestiynu gan aelodau seneddol sy’n ymchwilio i ymateb gwleidyddion i’r pandemig Covid-19.
Cafodd yr Ysgrifennydd Iechyd ei holi am honiadau Dominic Cummings gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Pan gafodd ei holi gan Greg Clark, cadeirydd y pwyllgor gwyddoniaeth ac iechyd, pe bai’n dweud unrhyw beth wrth y Prif Weinidog, ei fod e’n gwybod ei fod yn anghywir, atebodd Matt Hancock, “Na.”
Mynnodd na chafodd erioed wybod nad oedd y cyhoedd yn cael y driniaeth Covid-19 yr oedd ei hangen arnyn nhw, gan wadu honiadau Dominic Cummings.
“Fe wnes i ddweud yn breifat ac yn gyhoeddus fod pawb wedi cael y driniaeth Covid yr oedd ei hangen arnyn nhw ac rwy’n falch iawn o’r ffaith ein bod ni, gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, wedi cyflawni hynny yn ystod y pandemig oherwydd mae’n hollbwysig.
“Doedd dim adeg lle cefais fy nghynghori, ac rwy’ wedi mynd i’r drafferth o holi’r prif swyddog meddygol a’r prif gynghorydd gwyddonol, a doedd yna’r un adeg pan gawsom wybod nad oedd pobol yn cael y driniaeth yr oedd ei angen arnyn nhw.
“I’r gwrthwyneb, un o’r pethau rydym wedi llwyddo i’w wneud drwy gydol yr ymateb i’r pandemig hwn yw diogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel bod pobol wedi cael mynediad at driniaeth ar gyfer Covid.”
Dominic Cummigs wedi methu darparu tystiolaeth
Dywedodd Greg Clark fod Dominic Cummings wedi methu â darparu tystiolaeth i gefnogi ei honiadau, a dydy e ddim chwaith wedi rhoi esboniad pam nad yw wedi ei darparu.
Dywedodd Greg Clark fod dyddiad cau, dydd Gwener diwethaf, wedi’i bennu ar gyfer y dystiolaeth y mae Dominic Cummings wedi’i grybwyll fel y gallai lywio cwestiynau’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock.
“Nid ydym wedi derbyn y dystiolaeth honno nac unrhyw esboniad pam nad yw hynny wedi bod ar gael,” meddai.
“Mae’n bwysig, os caiff honiadau difrifol eu gwneud yn erbyn unigolyn, y dylid eu cadarnhau â thystiolaeth a rhaid ei ystyried yn ddigymell hebddo.”
Cartrefi gofal
Yn y cyfamser, mae Matt Hancock yn dweud ei fod e wedi dilyn y cyngor clinigol ar ryddhau cleifion ysbyty i gartrefi gofal yn ystod y pandemig.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd wrth y pwyllgor gwyddoniaeth ac iechyd fod y llywodraeth “wedi nodi polisi y byddai pobl yn cael eu profi pan fyddai profion ar gael”.
“Yr her oedd, nid yn unig nad oedd gennym y gallu eu profi ond hefyd mai’r cyngor clinigol oedd y gallai prawf ar rywun nad oedd ganddo unrhyw symptomau ddychwelyd canlyniad negyddol ffug ac felly rhoi sicrwydd ffug nad oedd gan y person hwnnw’r clefyd,” meddai.
“Ar yr un pryd, roedd y clinigwyr yn poeni, oherwydd roedd yn cymryd pedwar diwrnod i gael canlyniad prawf, pe bydden nhw’n gadael rhywun yn yr ysbyty am y pedwar diwrnod hynny efallai y byddan nhw’n dal Covid ac felly’n mynd yn ôl i gartref gofal gyda chanlyniad negyddol ond wedi ei ddal.”