Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn cael ei hannog i wneud mwy i roi terfyn ar yr “aparteid brechlynnau” sydd wedi datblygu rhwng cenhedloedd cyfoethog a thlawd.

Mae grŵp o elusennau yn annog y prif weinidog a Senedd yr Alban i roi pwysau ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, cyn uwchgynhadledd y G7, sy’n dechrau ddydd Gwener (Mehefin 11).

Mae ymgyrchwyr o Oxfam Scotland, Christian Aid Scotland a Global Justice Now Scotland – sydd i gyd yn aelodau o’r Gynghrair Brechu Pobol Ryngwladol – yn mynnu mwy o weithredu i gyflymu’r broses o gyflwyno brechlynnau Covid-19 i wledydd tlotach.

Mae dros hanner yr oedolion yn yr Alban eisoes wedi cael dau ddos o frechlyn, ond mae Cynghrair Brechu’r Bobol yn ofni y gallai gymryd 57 mlynedd i bawb mewn rhai gwledydd gael eu diogelu’n llawn.

“Ni all gwleidyddion yr Alban barhau i edrych wrth i’r prif weinidog rwystro camau gweithredu i atal penaethiaid cwmnïau fferyllol rhag penderfynu pwy sy’n byw a phwy sy’n marw’n fyd-eang tra bod eu cwmnïau’n pocedu biliynau o ddoleri,” meddai Jamie Livingstone, pennaeth Oxfam Scotland.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sefyll ar ochr anghywir hanes ac mae’n rhaid i Senedd yr Alban a’r prif weinidog eu dwyn i gyfrif drwy gefnogi galwadau am frechlyn i’r bobol, fydd yn rhoi achub bywydau uwchlaw diogelu patentau ac elw.”

“Does neb yn ddiogel nes ein bod ni i gyd”

“Cyn cyfarfod y G7 yr wythnos hon, mae’n rhaid i wleidyddion yr Alban anfon neges ddiamwys i’r Prif Weinidog, bod Senedd yr Alban yn sefyll yn unedig yn ei gwrthwynebiad i frechu apartheid,” meddai Sally Foster-Fulton, pennaeth Cymorth Cristnogol yr Alban.

“Ni ddylai mynediad i frechlyn sy’n achub bywydau ddibynnu ar ble rydych chi’n byw na faint o arian sydd gennych yn eich poced.

“Wedi’r cyfan, does neb yn ddiogel nes ein bod ni i gyd [yn ddiogel].”

“Rhwymedigaeth foesol”

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd cyfarfod y G7 yn arwain at gytundeb bod “cyfrifoldeb ar ran y G7 i helpu i gyflymu brechu, nid yn unig yng ngwledydd y G7 ond yn fyd-eang”.

“Mae’n gwbl wir, er ein bod wrth gwrs yn canolbwyntio’n wirioneddol ar frechu ein poblogaeth ein hunain cyn gynted â phosibl – oherwydd dyna yw ein cyfraniad cyntaf i ddod â’r pandemig byd-eang i ben – ni fyddwn yn dod â’r pandemig i ben nes bydd y byd i gyd yn llwyddo i wneud hynny,” meddai.

“Y cyfle gorau sydd gennym i symud ymlaen o’r feirws yw drwy frechu torfol.

“Felly, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn hynny, ac mae gan y gwledydd cyfoethocaf yn y byd rwymedigaeth foesol i arwain yr ymdrech honno.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod “yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Thasglu Brechu Covid-19 ar sut i gefnogi ac elwa o’r gwaith sydd ar y gweill ledled y byd i ddatblygu a darparu brechlyn diogel ac effeithiol ar gyfer Covid-19”.