Bydd Joe Biden wedi dweud wrth Boris Johnson i beidio â gadael i’r ffrae tros drefniadau Brexit Gogledd Iwerddon roi Cytundeb Gwener y Groglith mewn perygl pan fydd y pâr yn cyfarfod ddydd Iau (Mehefin 10).
Yn ystod ymweliad tramor cyntaf Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae’n debyg y bydd yn pwysleisio’r angen i “sefyll y tu ôl” i Brotocol Gogledd Iwerddon, yr elfen o gytundeb Brexit sydd wedi sbarduno anghydfod rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r mater wedi bygwth bod yn gysgod tros gyfarfod cynta’r prif weinidog gyda’r arlywydd yn uwchgynhadledd y G7, sy’n dechrau ddydd Gwener (Mehefin 11) yng Nghernyw.
Ar wahân i Brexit, bydd Boris Johnson a Joe Biden yn gweithio ar ymdrechion i ailddechrau teithio dros dro a chytuno ar Siarter Iwerydd newydd, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cydweithredu ar heriau gan gynnwys newid hinsawdd a diogelwch.
Ond bydd diddordeb mawr Joe Biden mewn materion sy’n effeithio Iwerddon yn golygu y bydd yr anghydfod ynghylch y protocol yn cael sylw mawr mewn trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd dros y dyddiau nesaf.
Mae The Times wedi bod yn adrodd bod Joe Biden wedi gorchymyn Yael Lempert, prif ddiplomydd yr Unol Daleithiau yn Llundain, i gyflwyno demarche – protest ffurfiol – mewn cyfarfod gyda’r Arglwydd Frost, Gweinidog Brexit, ar Fehefin 3.
Methodd trafodaethau rhwng y Gweinidog Brexit yr Arglwydd Frost a Maros Sefcovic o’r Comisiwn Ewropeaidd ddydd Mercher esgor cytundeb ar y protocol.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bygwth lansio rhyfel masnach yn erbyn Prydain os yw’n methu â gweithredu gwiriadau ar nwyddau sy’n dod i Ogledd Iwerddon o dan delerau setliad “ysgariad” Brexit a gafodd ei lofnodi gan Boris Johnson.
Mae’r protocol, i bob pwrpas, yn cadw Gogledd Iwerddon yn y farchnad sengl Ewropeaidd am nwyddau er mwyn osgoi ffin galed ag Iwerddon, sy’n golygu rhwystr masnach ym Môr Iwerddon ar gyfer cludo nwyddau o Brydain Fawr.
“Rhaid diogelu’r cytundeb”
“Mae’r Arlywydd Biden wedi bod yn berffaith glir ei fod yn credu’n gryf yng Nghytundeb Gwener y Groglith fel sylfaen ar gyfer cydfodoli heddychlon yng Ngogledd Iwerddon,” meddai Jake Sullivan, cynghorydd diogelwch cenedlaethol Joe Biden, wrth ohebwyr ar awyren Air Force One.
“Rhaid diogelu’r cytundeb hwnnw, ac ni fydd unrhyw gamau sy’n ei rwystro neu’n ei danseilio yn cael eu croesawu gan yr Unol Daleithiau.”
Pan gafodd ei holi a oedd safbwynt Boris Johnson yn rhwystro’r cytundeb heddwch, gwrthododd Jake Sullivan ateb gan ddweud “bod yr Arlywydd Biden yn mynd i wneud datganiadau egwyddorol ar hyn”.
Dywedodd Boris Johnson wrth ohebwyr ddoe (dydd Mercher, Mehefin 9) fod datrys yr anghydfod gyda Brwsel yn “hawdd ei wneud”.
“Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau y gallwn gael ateb sy’n gwarantu’r broses heddwch, yn diogelu’r broses heddwch, ond hefyd yn gwarantu uniondeb economaidd a thiriogaethol y Deyrnas Unedig gyfan,” meddai.