Mae cwest wedi clywed bod dynes 75 oed oedd wedi cael strôc yn Abertyleri wedi marw o ganlyniad i ddiffyg maeth a briwiau gorwedd.

Clywodd y cwest i Dorothea Hale farw yn yr ysbyty wythnosau ar ôl iddi fynd o gartref nyrsio Grosvenor House i’r ysbyty, a’i bod hi wedi dioddef yn sgil “methiannau sylfaenol” mewn gofal.

Ddoe (dydd Mercher, Mehefin 9), nododd y crwner nifer o fethiannau gan staff gofal yn y cyfnod rhwng Gorffennaf a Thachwedd 2006.

Ond oherwydd nad oedd tystiolaeth y byddai wedi byw oni bai am y methiannau’n golygu na allai gofnodi bod esgeulustod wedi cyfrannu at ei marwolaeth fis Ionawr 2007.

Cofnodion ar goll

Fe ddaeth i’r amlwg yn ystod y cwest yng Nghasnewydd fod cofnodion “hanfodol bwysig” ar goll o’r cartref.

Ac fe wnaeth nifer o gyn-aelodau o staff wrthod rhoi tystiolaeth i’r cwest.

Dywedodd y crwner nad oedd eglurhad ynghylch y cofnodion oedd ar goll a’i bod hi’n anodd iddo ddweud pwy oedd â’r “cyfrifoldeb yn y pen draw”.

Clywodd y cwest fod Dorothea Hale yn cael ei bwydo trwy diwb ar ôl cael sawl strôc oedd wedi ei pharlysu ar un ochr ei chorff, a bod angen gofal llawn amser arni.

Ond ar ôl symud i’r cartref, doedd hi ddim yn cael ei bwydo trwy’r tiwb ac roedd hi’n ‘gwrthod’ derbyn bwyd ac roedd hynny wedi arwain at ddiffyg maeth a dadhydradu.

Dywedodd y crwner fod methiant staff i sicrhau ei bod hi’n cael ei throsglwyddo i ofal clinigwyr er mwyn sicrhau ei bod hi’n cael ei bwydo trwy’r tiwb yn gyfystyr â “methiant sylweddol wrth ddarparu gofal meddygol sylfaenol”.

Clywodd y cwest fod ailgyflwyno’r tiwb yn ddiweddarach wedi arwain at “syndrôm ailfwydo” sydd yn gallu bod yn ddifrifol iawn, a bod briwiau gorwedd ar ei chorff pan aeth hi i’r ysbyty o’r cartref nyrsio.

Yn ôl y crwner, roedd methu â mynd i’r afael â’r briwiau’n “fethiant difrifol i ddarparu neu sicrhau gofal meddygol sylfaenol” ond doedd e’n methu dweud â sicrwydd y byddai’r fath ofal wedi gallu achub ei bywyd.

Ymchwiliad

Roedd dau aelod o staff yn destun ymchwiliad gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn dilyn marwolaeth Dorothea Hale.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad na allen nhw barhau i nyrsio ac fe gollon nhw eu lle ar y gofrestr.

Cyfuniad o strôc, briwiau gorwedd, diffyg maeth a syndrôm ailfwydo oedd y ffactorau oedd wedi cyfrannu at ei marwolaeth, yn ogystal â cheulad gwaed a chyhyrau’r galon wedi rhwygo.

Cofnododd y crwner reithfarn naratif, gan ddweud nad oedd angen iddo gyhoeddi gorchymyn i fynd i’r afael â marwolaethau pellach gan fod deddfwriaeth, rheoliadau ac athroniaeth asiantaethau gofal wedi newid yn sylweddol dros gyfnod o 15 mlynedd.

Roedd marwolaeth Dorothea Hale hefyd yn destun ymchwiliad, ynghyd â degau o bobol eraill, gan Heddlu’r De.

Fe wnaeth yr ymchwiliad i 63 o farwolaethau bara bron i ddegawd gan gostio dros £11m.