Mae Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ymddiheuro wrth gyn-ddisgyblion a gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan Clive Hally, cyn-bennaeth Adran Gelf yr ysgol.
Gweithiodd Clive Hally yn Ysgol Gyfun Brynteg am 36 o flynyddoedd cyn ymddeol yn 2011.
Mae’n debyg bod y cam-drin rhywiol wedi digwydd dros gyfnod o 29 o flynyddoedd.
Cafodd ei ganfod yn farw yn 67 oed, a hynny ar y diwrnod yr oedd disgwyl iddo ymweld â gorsaf yr heddlu ar fechnïaeth yn 2019.
Daeth hyn ar ôl i ddau berson gyflwyno cwynion amdano.
Datgelodd ymchwiliad dilynol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ei fod e wedi cyfaddef i rai achosion o gam-drin rhywiol.
Yn ôl Heddlu’r De, mae pum dyn arall wedi gwneud cwynion ers hynny.
Yn ôl casgliadau ymchwiliad y Cyngor, roedd aelodau staff “wedi mynegi pryderon” ynghylch ei ymddygiad.
“Dim esgus”
“Roedd yna gyfleoedd lle gallai uwch reolwyr yr ysgol fod wedi codi’r pryderon anffurfiol yma gyda swyddogion diogelu plant yr awdurdod lleol,” meddai adroddiad y Cyngor.
“Mae’r ffaith na ddigwyddodd hynny, wrth gwrs, yn fater o bryder mawr.
“Mae Ysgol Brynteg yn cynnig ymddiheuriad llawn a diamod i bawb a gafodd eu heffeithio gan y sefyllfa ofidus eithriadol yma.”
Ychwanegodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ei fod yn “destun gofid nad oedd arweinwyr ysgol y gorffennol wedi gweithredu ar bryderon aelodau staff”.
“Does dim esgus dros hynny,” meddai.
“Mae’r ymchwiliad annibynnol yn tanlinellu’r ffaith fod y gamdriniaeth yn mynd rhagddi ac wedi parhau wedi’r ymchwiliad proffil uchel i achos arall gan fy rhagflaenydd, sef Ymchwiliad Clywch.”