Mae’r Uchel Lys wedi rhoi’r hawl i Conradh na Gaeilge wneud cais am adolygiad barnwrol i fethiannau Pwyllgor Gwaith Gogledd Iwerddon i sefydlu Strategaeth Iaith Wyddeleg.
Maen nhw’n dweud bod y methiant yn golygu bod y Pwyllgor Gwaith wedi torri amodau Deddf Gogledd Iwerddon 1998.
Fe wnaeth Conradh na Gaeilge hysbysu’r Pwyllgor Gwaith o’r cam hwn ar ddiwedd mis Mawrth ar ôl iddyn nhw fethu â mabwysiadu deddfwriaeth i ddiogelu hawliau siaradwyr.
Ond fe wnaethon nhw fethu ag ymateb yn unol â’u dyletswydd gyfreithiol, yn ôl adolygiad barnwrol.
Cafwyd addewid i fabwysiadu strategaeth iaith fel rhan o Gytundeb St Andrew ac fel rhan o Raglen Lywodraeth y Pwyllgor Gwaith rhwng 2011 a 2015, ac unwaith eto y llynedd fel rhan o’r Cytundeb Degawd Newydd Dull Newydd.
Y disgwyl oedd y byddai’n cael ei gyflwyno o fewn chwe mis ar ôl y Cytundeb diweddaraf.
Yn ogystal â methu â gwneud hynny, mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi methu â chyhoeddi amserlen lawn ar gyfer datblygu a chyflwyno’r Strategaeth Iaith Wyddeleg o fewn y tri mis a gafodd ei gytuno.
‘Cau cymuned allan’
“Fwy na phedair blynedd ers dyfarniad hanesyddol yr Uchel Lys yn datgan fod y Pwyllgor Gwaith wedi methu yn ei ddyletswyddau o ran y strategaeth iaith Wyddeleg, rydym unwaith eto wedi cael yr hawl i gael adolygiad barnwrol i’r un methiant parhaus,” meddai Dr Niall Comer, llywydd Conradh an Gaeilge.
“Mae 15 mlynedd arnom bellach ers yr ymrwymiad i strategaeth iaith Wyddeleg gael ei wneud yn ôl y gyfraith yn St Andrew’s.
“Ymhellach, mae’r methiant i weithredu’r strategaeth yn unol â Degawd Newydd Dull Newydd unwaith eto’n tynnu sylw at y cau allan parhaus o ran ein cymuned, sy’n amlwg yn groes i’w dyletswyddau cyfreithiol.
“Roedd Degawd Newydd Dull Newydd yn cynnwys cytundeb o ran yr amser i gynhyrchu amserlen i ddatblygu’r strategaeth o fewn tri mis ochr yn ochr â chyflwyno’r Strategaeth ei hun o fewn chwe mis.
“Mae Conradh na Gaeilge yn difaru gorfod dychwelyd i’r llys ar yr un mater, ond rydym yn credu bod cynnydd y strategaeth iaith Wyddeleg yn cael ei rwystro’n wleidyddol ac yn cael ei rwystro’n wythnosol, wrth i’r papurau aros i gael eu cymeradwyo ar agenda’r Pwyllgor Gwaith gyda’r Swyddfa Gweithredol.
“Does dim esgus sy’n ddilys nac yn rhesymol ar gyfer yr oedi yma.
“Mae’r mater hwn a’r ddeddfwriaeth iaith Wyddeleg sydd ar y gweill y cytunwyd iddyn nhw yn St Andrew’s ac NDNA bellach yn brawf litmws ar gyfer y DUP dros yr wythnosau i ddod.”