Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £33m i gefnogi dysgwyr mewn colegau ac yn y chweched dosbarth, fel rhan o’r £150m maen nhw wedi’i neilltuo ar gyfer addysg yn sgil y pandemig.
Fe fydd y cyllid yn cael ei rannu rhwng darparwyr addysg ôl-16, gyda £24.25m ar gyfer colegau addysg bellach, a £8.75m tuag at addysg chweched dosbarth mewn ysgolion.
Bwriad yr arian yw cefnogi amser addysgu ychwanegol, mewn ystafelloedd dosbarth a chymorth un-i-un, ar gyfer dysgwyr rhwng 16 ac 19 sy’n dechrau cyrsiau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch neu gyrsiau galwedigaethol.
Amser a chefnogaeth
“O ran addysg, mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar ddysgwyr a ddechreuodd eu haddysg ôl-16 yn y flwyddyn academaidd hon,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru.
“Er bod staff a myfyrwyr wedi gallu addasu’n rhagorol i ddysgu cyfunol, ni all fyth gymryd lle addysg wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth neu ystafell ddarlithio gyda gweithiwr addysgu proffesiynol.
“Roedd dysgu ar-lein yn brofiad heriol iawn i rai myfyrwyr ac rwy’n ymwybodol o effaith y pandemig ar ddysgwyr o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn enwedig.
“Mae’n hanfodol ein bod yn buddsoddi nawr i gefnogi’r myfyrwyr hynny, fel y gallant deimlo bod ganddynt yr amser a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ailgysylltu â’u haddysg.”
“Allweddol”
“Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i gefnogi dysgwyr mewn colegau ac ysgolion,” meddai Iestyn Davies, prif weithredwr Colegau Cymru, corff sy’n gweithio gyda’r 13 coleg Addysg Bellach yng Nghymru.
“Bydd y cyllid sylweddol hwn, y mae gwir ei angen, yn helpu colegau ac addysg chweched dosbarth mewn ysgolion i gynnig cymorth sydd wedi’i deilwra i bobl ifanc wrth iddynt ddechrau addysg ôl-orfodol.
“Heb unrhyw amheuaeth, mae COVID 19 wedi effeithio ar ddysgwyr wrth iddyn nhw drosglwyddo o addysg orfodol ac ymlaen i gam nesaf eu taith addysg.
“Fodd bynnag, mae ymrwymiad y llywodraeth i ddysgu a lles yn golygu y bydd y dysgwyr hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gymryd eu camau nesaf.
“Mae’n dyst i ymrwymiad y Gweinidog a’r weinyddiaeth i ddarparu’r cymorth sydd ei angen.”