Bydd technoleg adnabod rhifau ceir yn awtomatig a dwsinau o gamerâu cylch cyfyng newydd yn cael eu defnyddio mewn dau leoliad troseddu problematig yn y gogledd.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, wedi sicrhau bron i £500,000 mewn cyllid ychwanegol fel rhan o ymgyrch yn erbyn lladradau, troseddau ceir a byrgleriaethau ym Mangor a Bae Colwyn.
Nod y fenter ‘Strydoedd Mwy Diogel’ yw mynd i’r afael â throseddau dwyn sy’n cyfrif am 60% o’r holl droseddau.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn targedu troseddwyr a gangiau troseddu cyfundrefnol o’r tu allan i’r ardal sy’n dod ar sbri torcyfraith i’r ddwy gymuned.
Mae mesurau eraill yn cynnwys goleuadau gwell mewn strydoedd a meysydd parcio a phecynnau atal troseddau i wneud cartrefi, adeiladau cymunedol a busnesau yn fwy diogel.
Ar draws y ddwy dref, mae Heddlu’r Gogledd wedi defnyddio data i adnabod yr ardaloedd sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef troseddau fel lladradau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y prosiect ym Mangor yn derbyn bron i £239,000, tra bydd yr un ym Mae Colwyn yn cael £246,622.
Mae’n dilyn menter debyg y llynedd pan gafodd ymgyrchoedd eu lansio yn erbyn troseddu yn y Rhyl a Wrecsam.
‘Newyddion gwych’
“Mae’n newyddion gwych a hoffwn ddiolch i’m tîm am weithio ar y cyd â Heddlu’r Gogledd a phartneriaid eraill i lunio’r cais llwyddiannus hwn am y swm sylweddol iawn hwn o arian,” meddai Andy Dunbobbin.
“Mae mor bwysig bod pobol gogledd Cymru yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.
“Mae’n ymwneud ag achub ar bob cyfle posib i atal troseddau dwyn, lle mae troseddwyr yn cymryd eiddo gan ddioddefwyr naill ai trwy ladrad, byrgleriaeth neu droseddau ceir.
“Pan gyhoeddwyd yr ail rownd hon o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel, gweithiodd fy nhîm gyda’n partneriaid i adolygu ardaloedd ledled y Gogledd i weld lle gallem ddefnyddio’r arian hwn i wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl leol.
“Roedd yn amlwg bod Bangor a Bae Colwyn yn ddwy ardal a gafodd eu heffeithio’n anghymesur gan droseddau dwyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond roedden nhw’n ardaloedd lle gellid rhoi rhai atebion syml ar waith i atal troseddu a gwella diogelwch y bobol sy’n byw yno yn sylweddol.
”Gyda’r arian yma, byddwn yn gallu rhoi rhai mesurau tymor hir ar waith yn gymharol gyflym a hawdd a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel, cryfach ac iachach.
“Rwy’n siŵr y bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r cymunedau hyn ym Mae Colwyn a Bangor.
“Mae’n hynod bwysig i mi nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl a bod pawb yn cael eu cynnwys ar draws ein holl gymunedau yma yn y gogledd.”
“Buddsoddiad sylweddol”
“Dyma’r ail flwyddyn i ni fod yn llwyddiannus yn ein ceisiadau i’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel ac mae’n enghraifft arall eto o’r gwaith partneriaeth eithriadol sydd gennym yng ngogledd Cymru,” meddai Helen Corcoran o Heddlu’r Gogledd.
“Bydd y gronfa hon yn ein helpu i fynd i’r afael â byrgleriaeth, troseddau ceir a lladradau.
“Mae’r troseddau hyn yn cyfrif am oddeutu 60 y cant o’r holl droseddau, a bydd unrhyw un sydd wedi dioddef byrgleriaeth yn dweud wrthych mai profiad gofidus iawn yw bod yn ddioddefwr.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein cymunedau lleol, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chynghorau Gwynedd a Conwy i ddarparu cyfleusterau gwell i helpu i gadw ein trigolion yn ddiogel.”