Fis union cyn y bydd rali “Nid yw Cymru ar Werth” yn cael ei chynnal ar argae Tryweryn, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi bod pob cynrychiolydd etholedig y fro yn gefnogol.

Mae disgwyl y bydd cannoedd o bobol yn mynd i’r rali ar Orffennaf 10 a heddiw, mae holl gynrychiolwyr yr ardal wedi datgan cefnogaeth unfrydol i’r rali a’r ymgyrch i roi pwerau i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai.

Fel symbol o’r ymrwymiad i atal chwalfa cymunedau Cymru, mae’n debyg y bydd cannoedd o bobol yn ffurfio “argae dynol” ar draws yr argae.

Presenoldeb

Bydd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd lleol, yno ar y diwrnod hefyd, ynghyd ag Elwyn Edwards, Cynghorydd Sir Bro Tryweryn.

Bydd cadeiryddion a chynrychiolwyr y pedwar Cyngor Bro lleol yno hefyd, i lofnodi’r alwad ar ran eu cynghorau – sef Alwyn Jones ar ran Cyngor Cymuned Llandderfel, Dewi Wyn Jones a Beryl Griffiths ar ran Cyngor Cymuned Llanuwchllyn, Euros Puw ar ran Cyngor Cymuned Llanycil, ac Owain Rhys Evans, Maer y Bala.

Mae Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi datgan ei gefnogaeth hefyd, a bydd ei ragflaenydd Dyfed Edwards, hefyd yno i lofnodi’r alwad ar y Llywodraeth.

Bydd Dafydd Iwan, Branwen Niclas, Delyth Jewell a Cian Ireland yn annerch y dorf hefyd.

‘Gweithredu ar frys’

“Rydan ni’n falch o allu cyhoeddi, fis yn union cyn dyddiad Rali Tryweryn, fod yr holl gyrff etholedig lleol wedi datgan cefnogaeth i’r Rali ac y byddan nhw yno ar y diwrnod i lofnodi’r alwad ar y Llywodraeth i weithredu ar frys ac mewn modd radical i sicrhau fod cymunedau lleol yn gallu rheoli’r farchnad dai a’r broses gynllunio i sicrhau cartrefi i’w pobol,” meddai Osian Jones, y llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’. 

“Go brin fod yr un digwyddiad nac ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith wedi ennyn y fath gefnogaeth yn ein cymunedau.

“Disgwyliwn a hyderwn y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar frys ac mewn modd radical, ar ôl yr holl flynyddoedd o ymdrechu ac ymgyrchu, i daclo’r argyfwng sy’n atal pobl rhag cael cartrefi yn eu cymunedau.”

Cerdded dros 30 milltir a dilyn llwybr Mari Jones i gyrraedd rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’

Cadi Dafydd

Cafodd y daith ei dewis “oherwydd ei bod hi’n daith eithaf nodweddiadol, yn daith enwog o ran dyfalbarhad”

Llywodraeth Cymru am ymateb “yn gyflym” i’r argyfwng tai haf, yn ôl Gweinidog y Gymraeg

Iolo Jones

“Gall y cynnydd yn y siaradwyr ddim digwydd ar draul gwarchod cymunedau yn y gorllewin, ac yn y gogledd falle, lle mae’r Gymraeg yn brif iaith”