“Mae’n bwysig fod pobol yn cydnabod, ac yn cofio, gwir bwrpas Pride,” yn ôl Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil Stonewall Cymru.

Mae mis Mehefin, mis Pride, yn gyfle i ddathlu cymunedau LHDTC+ dros y byd, ac esbonia Iestyn Wyn fod yna ddwy ochr i ddigwyddiadau Pride – y gorymdeithio a’r dathlu.

Mae Iestyn Wyn wedi dweud wrth golwg360 fod y ddwy ochr yn bwysig iddo fe, ac i gymunedau ehangach, ond ei fod yn gorymdeithio oherwydd ei fod yn “cydnabod fod ein bodolaeth ni dal, mewn rhai gwledydd, a hyd yn oed yma ym Mhrydain ac yng Nghymru, yn destun gwleidyddiaeth, ac yn destun dadl”.

“Rydyn ni wedi gweld gwleidyddiaeth yn newid ar draws y byd, allwn ni ddim felly eistedd yn ôl a meddwl ein bod ni ddim yn mynd i gael ein heffeithio gan y datblygiadau yna,” meddai.

Yn sgil cyfyngiadau Covid-19, fydd digwyddiadau Pride ddim yn cael eu cynnal ar yr un raddfa eleni, ond mae Iestyn Wyn yn annog pobol nad ydyn nhw yn LHDTC+ i ddefnyddio’r cyfnod i addysgu eu hunain am brofiadau pobol LHDTC+ ac i wrando, yn ogystal â gofyn cwestiynau addas.

Tarddiad Pride

“Mae Pride yn hollbwysig i’r gymuned LGBTQ+, ac yn amlwg mae’r digwyddiad ei hun yn bwysig, ac mae’r gweithgarwch o gwmpas mis Pride, a chyfnod Pride … yn bwysig yn ei hun,” meddai Iestyn Wyn, sy’n cyflwyno’r podcast LHDTC+ cyntaf yn y Gymraeg ar y cyd efo Meilir Rhys Williams.

“Ond y neges, a’r symboliaeth sydd tu ôl i ddigwyddiadau Pride sy’n bwysig i lot o bobol LGBTQ+, oherwydd y gydnabyddiaeth yna o’n hanes ni, a’r frwydr sy’n dal i barhau hyd heddiw.

“Os edrychwch chi’n ôl dros hanes i 1969 pan gychwynnodd, mewn gwirionedd, y mudiad dros hawliau pobol LGBTQ+ ar draws y byd, roedd criw o bobol wedi brwydro’n ôl yn erbyn yr heddlu, a’r gorthrwm roedden nhw’n ei brofi o dan warchodaeth yr heddlu ar y pryd.

“Flwyddyn yn ddiweddarach, roedd y Pride cyntaf yn Efrog Newydd a’r Pride cyntaf yn y byd.

“Ac mae hwnna’n symbol o bobol LGBTQ+ yn dweud ’digon yw digon, rydyn ni yma, ac rydyn ni’n mynd i frwydro dros ein hawliau ni,” esbonia.

“O hynny ddoth y mudiad ar draws y byd mewn gwirionedd, dyna gychwynodd o. A hyd heddiw, mae pobol yn cydnabod fod Pride yn brotest.

“Yndi, mae o’n ddathliad ac mae pobol yn mwynhau’r dathlu, yr ochr gŵyl i Pride ond i fi’n bersonol, a lot o ffrindiau a chydweithwyr, rydyn ni’n gorymdeithio oherwydd rydyn ni’n cydnabod fod ein bodolaeth ni dal, mewn rhai gwledydd, a hyd yn oed yma ym Mhrydain ac yng Nghymru, yn destun gwleidyddiaeth ac yn destun dadl.

“Mae hynny, i fi, yn hollbwysig i’w gydnabod. Mae’n bwysig fod pobol yn cydnabod, ac yn cofio, gwir bwrpas Prides.

“Welwch chi’n flynyddol, efo Pride Cymru a Prides bach ar draws Cymru hefyd, mae’r orymdaith yr un mor bwysig, os nad yn fwy pwysig, na’r ochr gerddoriaeth a’r dathlu.

“Mae hwnna’n bwysig oherwydd yr anghydraddoldebau sy’n parhau.”

‘Tynnu’r masg lawr’

“I fi, mae’r ochr miwsig, a dathlu a mynd i Pride yn bwysig hefyd, oherwydd mae yna bobol sydd dal ofn dal dwylo eu partneriaid ar y stryd, mae yna bobol ofn bod yn nhw eu hunain, a mynegi’r ffordd maen nhw’n deimlo trwy be’ maen nhw’n wisgo neu be bynnag,” ychwanega Iestyn Wyn.

“Mae cyfnod Pride yn gyfnod lle ti’n gallu jyst tynnu’r masg yna lawr bach, a bod fel ‘Dyma fi, dyma pwy ydw i’.

“Mae o’n gyfnod pwysig ar yr ochr yna hefyd, lle ti’n gweld amrywiaeth o bobol, nid jyst pobol LGBTQ+ ond yr amrywiaeth o fewn y gymuned sy’n bodoli.

“Mae’n mynd yn ôl at be ydan ni isio ei weld, a dychmygu pa fath o wlad a byd ydyn ni isio byw ynddyn nhw.

“Unwaith rydyn ni’n cydnabod, ocê rydyn ni eisiau byw mewn byd lle mae pobol yn rhydd i fod yn nhw eu hunain, yn rhydd i garu, yn rhydd i fynd i’r ysgol neu i’r gwaith a pheidio cael eu trin yn anghydradd, rydyn ni wedyn yn gallu cydnabod fod gan bawb, LGBTQ+ ai peidio, rôl i’w chwarae yn sut rydyn ni’n cyrraedd y nod.”

“Addysgu eu hunain”

“I fi, yn ystod y cyfnod yma, fyswn i’n annog pobol sydd ddim yn LGBTQ+ i gymryd cam yn ôl ac addysgu eu hunain am brofiadau pobol LGBTQ+ a gwrando, a gofyn y cwestiynau mewn ffordd sy’n addas er mwyn addysgu nhw eu hunain – am y gymuned, am yr hanes, ond hefyd am yr hyn sydd dal ar ôl i’w wneud.

“A defnyddio eu lleisiau nhw eu hunain i ddylanwadu sut rydyn ni’n cyrraedd y nod yna.

“Un neges, fyswn i’n ddweud, allwn ni ddim eistedd nôl a rhoi ein traed fyny a meddwl ‘Dyna ni, mae gennym ni restr o’r hawliau yma felly mae’r gymuned yn iawn’.

“Rydyn ni wedi gweld yn Ewrop, yng Ngwlad Pwyl er enghraifft, lle mae pobol LGBTQ+ yn cael eu hymosod arnyn nhw gan lywodraethau, ac mae pethau’n newid.

“Rydyn ni wedi gweld gwleidyddiaeth yn newid ar draws y byd, allwn ni ddim felly eistedd yn ôl a meddwl ein bod ni ddim yn mynd i gael ein heffeithio gan y datblygiadau yna.

“Mae yna ran o wthio hawliau ymlaen, ond mae yna ran hefyd o warchod yr hyn sydd gennym ni.”

Gweithredu a gwelededd

“Dw i’n meddwl fod o’n bwysig gweithredu yn ogystal â dangos gwelededd mwy amlwg, drwy newid logos ac yn y blaen,” meddai Iestyn Wyn wedyn, wrth gyfeirio at y ffaith fod rhai’n beirniadu cwmnïau a sefydliadau gan ddweud nad yw newid logos yn ystod mis Pride yn mynd ddigon pell.

“Mae hynny’n gallu gwneud gwahaniaeth i bobol LGBTQ+, os ti’n gweld busnesau neu weithleoedd yn dangos eu cefnogaeth weledol, mae hynny yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i bobol sydd, ella, ddim allan, neu isio mynediad at wasanaethau ac yn gwybod eu bod nhw’n gallu mynd yna oherwydd bod y busnes yn cyfathrebu eu cefnogaeth nhw’n weledol.

“Ond mae yna rywbeth am gyfathrebu’r gwaith mae rhywun yn ei wneud yn y cefndir hefyd, a dyna sy’n cyfri yn y bôn – be sy’n digwydd tu ôl i’r lliwiau llachar a’r marchnata.

“Sut mae pobol yn creu gweithleoedd lle mae pobol LGBTQ+ yn teimlo’n sâff, y ffordd mae pobol yn cydweithio efo busnesau a llywodraethau mewn gwledydd lle mae pobol LGBTQ+ yn cael eu herlyn, ac yn parhau i brofi gorthrwm gan wlad neu gan bobol yn y gwledydd hynny.

“Yn ogystal â beth ydi eu polisïau mewn nhw, ydyn nhw’n cefnogi Prides, ydyn nhw’n rhoi arian neu gefnogaeth arall i elusennau sy’n cefnogi pobol LGBTQ+.

“Mae pobol yn barod i gwestiynu hynny a dw i’n meddwl bod o’n iawn fod pobol yn edrych at gwmnïau mawr ac yn dweud ‘be’ ydach chi’n ei wneud yn ogystal â newid eich delweddau ac yn y blaen,” pwysleisia.

“Mae yna gyfrifoldeb yn mynd efo gwelededd.

“Os ydych chi’n bod yn weledol yn ystod cyfnod Pride o gefnogi pobol LGBTQ+, mae angen iddo fo ddod efo gweithredu hefyd.

“Allith o ddim bod yn rhywbeth ‘Mae’n fis Mehefin – dyna ni’.”