Mae’r bleidlais dros ganiatáu i bwyllgor yn y Senedd graffu ar Reoliadau Rheolau Llygredd Amaethol, wedi’i disgrifio fel “buddugoliaeth i synnwyr cyffredin”.
Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Seneddol Plaid Cymru, fod y bleidlais yn “fuddugoliaeth i ffermwyr ac undebau” ac i gymunedau gwledig.
Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, wedi galw am adolygiad i’r rheolau.
Daw’r galw am adolygiad wedi i Gyfoeth Naturiol Cymru rybuddio y gallai’r rheolau arfaethedig gael yr effaith groes, a gwneud ansawdd dŵr yn waeth.
“Ffermwyr yn rhan o’r ateb”
“Mae’r bleidlais heddiw yn fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin. Mae’n fuddugoliaeth i’n ffermwyr a’n hundebau, ac mae’n fuddugoliaeth i’n cymunedau gwledig,” meddai Cefin Campbell, llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Gwledig ac Amaethyddiaeth.
“Rydym wedi clywed dro ar ôl tro pam nad yw’r rheoliadau fel y maent yn dderbyniol.
“Nid yn unig y cawson nhw eu rhuthro drwodd yn ddi-hid gan weinidog a addawodd, ddim llai na deg gwaith, na fydden nhw’n cael eu cyflwyno tra bod Cymru’n dal mewn pandemig, fe’u cyflwynwyd yn erbyn argymhelliad arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru a ddywedodd y dylid cyflwyno rheoliadau yn yr 8% o ardaloedd sydd mewn perygl mwyaf, yn hytrach nag ar sail Cymru gyfan.
“At hynny, byddai’r diffyg cymorth ariannol sydd ar gael i helpu busnesau fferm i ymdopi â’r rheoliadau yn effeithio ar ffermydd teuluol yn ddifrifol.
“Sut ar y ddaear y gall y gweinidog gyfiawnhau cynnig £11 miliwn mewn cymorth ariannol, pan mae asesiadau’r llywodraeth ei hun yn awgrymu y gallai’r gost i ffermwyr fod rhwng £109 miliwn a £360 miliwn?
“Mae ffermwyr Cymru yn rhan o’r ateb, nid yn rhan o’r broblem. Mae Plaid Cymru yn credu ei bod hi’n bryd i’r Llywodraeth wrando arnyn nhw – ac ar arbenigwyr.
“Mae’n bryd edrych i’r dyfodol drwy groesawu technoleg i wneud dewisiadau llawer mwy cywir o ran rheoli tir – fel defnyddio gorsafoedd tywydd ar ffermydd i fesur tymheredd y pridd, lleithder dail, cyfeiriad y gwynt, a glaw – gan alluogi ffermwyr i wneud penderfyniadau ynghylch taenu slyri, chwistrellu, neu gynaeafu plaladdwyr.
“Mae hyn yn llawer mwy gwyddonol na ffermio yn ôl calendr, sy’n anymarferol ac yn hen ffasiwn.
“Nawr yw’r amser i gydweithio er mwyn dod i gonsensws, a dod i ateb a fydd yn diogelu ein hamgylchedd rhag llygredd, a sicrhau hyfywedd ffermwyr a chymunedau’r Gymru wledig dros y blynyddoedd i ddod.”
“Angen dull cymesur, cynaliadwy”
“Mae pawb yn cytuno bod yn rhaid i ni gymryd camau brys i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, gan gynnwys mynd i’r afael â llygredd dŵr,” meddai Jane Dodds AoS.
“Mae arnom angen dull cymesur, cynaliadwy wedi’i dargedu i ymdrin â llygredd dŵr yng Nghymru. Ond mae’r cynlluniau arfaethedig yn methu â gwneud hynny.
“Rwyf wedi clywed llawer o ffermwyr yn dweud y bydd yn rhaid i’w gwartheg fynd os caiff y rheoliadau hyn eu gweithredu’n llawn. Bydd y canlyniadau i’n hamgylchedd a’n heconomi wledig yn drychinebus.
“Mae slyri a thail yn cael eu gwasgaru’n anghyfrifol ger cyrsiau dŵr, ac mae gollwng nitradau a ffosffad yn raddol i ddŵr daear yn broblem hirdymor.
“Ond mae atebion eraill, gan gynnwys sicrhau bod gan Gyfoeth Naturiol Cymru adnoddau digonol sydd eu hangen arnyn nhw i atal achosion o lygredd, ac erlyn troseddwyr.
“Mae’r cynlluniau presennol yn gyfystyr â defnyddio morthwyl i dorri cneuen. Dyna pam rwy’n croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol heddiw yn galw am adolygiad brys o’r Rheoliadau arfaethedig fel y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen.
“Nid oes neb yn cwestiynu pwysigrwydd dyfrffyrdd iach, aer glân, ac amgylchedd ffyniannus; mae hynny’r un mor bwysig i bobol yn ein trefi a’n dinasoedd ag ydyw yn ein cymunedau gwledig.
“Ond mae’n rhaid i’r dull fod yn gymesur, a rhaid rhoi cymorth ar waith, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth ariannol, i alluogi ffermwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio.”