Mae Llywodraeth Cymru yn “gwbl agored ac yn dryloyw” a does dim ymgais wedi bod i guddio gwybodaeth ynglŷn â sut y dyrannwyd grantiau i fusnesau.
Dyna mae Vaughan Gething, sydd bellach yn Weinidog yr Economi, wedi ei ddweud wrth ateb cwestiynau yng Nghyfarfod Llawn y Senedd brynhawn heddiw.
Yn ystod y sesiwn, fe wnaeth Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr, herio haeriad Llywodraeth Cymru mai ei phecyn cymorth covid i fusnesau yw’r gorau yn y Deyrnas Unedig.
“Tryloywder”
Dywedodd y byddai’n rhaid gweld ffigurau i gefnogi’r haeriad hwnnw, a dywedodd bod yn rhaid darparu ystadegau ynghylch pa fusnesau sydd wedi derbyn pa symiau er diben “tryloywder”.
“Rydym eisoes wedi cyhoeddi peth o’r wybodaeth yna ynghylch cefnogaeth wnaethom ni ei rhoi yn gynt yn ystod y pandemig,” meddai Vaughan Gething yn ymateb i hynny.
“Dw i ddim am roi syniad i chi nawr, gan fod yn rhaid i mi wirio, ond dw i’n hapus i wneud yn siŵr bod pob un Aelod yn ymwybodol pan fyddwn ni – nid os byddwn ni – yn cyhoeddi hynna.
“Felly [rydym yn] gwbl agored ac yn dryloyw. Yn sicr does dim ymgais i guddio’r niferoedd sydd wedi’u darparu.
“Roedd hynny’n rhan o’r amodau a oedd ynghlwm â’r gefnogaeth a roddwyd. Mae pob busnes sy’n derbyn cefnogaeth yn gwybod ein bod yn cyhoeddi’r niferoedd sydd wedi’u darparu.”
‘Ffaith, nid barn’
Yn ateb i gwestiwn arall gan Paul Davies mi roddodd Weinidog yr Economi syniad o’r cymorth sydd eisoes wedi’i roi i fusnesau yng Nghymru.
“Rydym wedi darparu £2.3 biliwn o gymorth i fusnesau a’r economi yma yng Nghymru, wedi i ni dderbyn cyllid canlyniadol o £1.9bn oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Ffaith yw hynny, nid mater o farn.
“Penderfyniad oedd rhoddi’r £400m ychwanegol yna er mwyn rhoi cefnogaeth bellach i fusnesau yma yng Nghymru.
“Bydd yr Aelod eisoes yn ymwybodol, er enghraifft, fod rhyddhad ardrethi busnesau bach yn parhau am flwyddyn gyfan arall yma yng Nghymru.
“Chwarter [blwyddyn] o ryddhad llawn o’r ardrethi fydd yn Lloegr, cyn y bydd yn gostwng yn raddol wedi hynny.”