Mae modelu gan Imperial College London ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos fod yna “risg y bydd trydedd don sylweddol” o achosion Covid, meddai arbenigwr.

Dywedodd yr Athro Neil Ferguson nad yw hi’n bosib bod yn bendant ynghylch graddfa’r drydedd don, “gallai fod yn sylweddol is na’r ail don, neu gallai fod ar yr un math o gryfder”.

Bydd maint y don yn “dibynnu” ar ba mor effeithiol yw brechlynnau o ran gwarchod pobol rhag gorfod mynd i’r ysbyty, a marw, a hynny wrth ystyried amrywiolyn Delta, a materion eraill.

Mae arbenigwyr yn gobeithio gallu gweld y berthynas rhwng achosion a derbyniadau ysbyty yn gliriach “yn yr ychydig wythnosau nesaf” meddai’r athro.

Er hynny, dywedodd fod “brechu wedi newid y gymhareb” er gwell.

Delta yn dyblu mewn wythnos

Mae’r cyfyngiadau’n parhau i lacio’n raddol yng Nghymru, gyda’r symud tuag at Lefel Rhybudd 1 yn digwydd fesul dipyn er mwyn caniatáu i fwy o bobol gael eu brechu.

Dywedodd Neil Ferguson fod oedi wrth lacio cyfyngiadau yn gwneud gwahaniaeth am y rheswm hwnnw. Hynny yw, bod cael dau ddos o’r brechlyn yn cynnig mwy o warchodaeth nag un dos.

Bydd unrhyw drydedd don yn “trosi’n ryw nifer o dderbyniadau i ysbytai, a marwolaethau”, ond ychwanegodd “ei bod hi’n anoddach dweud pa mor sylweddol fydd yr olaf ar hyn o bryd”.

Dywedodd hefyd nad yw’r wlad wedi gweld “cynnydd mawr mewn lledaeniad” y feirws ers i Loegr symud o Lefel Rhybudd 3, “ond gallai hynny ddod”.

Ar hyn o bryd, mae achosion o’r amrywiolyn Delta yn dyblu mewn ychydig llai nag wythnos, ac mae hynny’n wir am y sefyllfa yng Nghymru hefyd.

Gellir cymharu hyn â’r “hyn welsom ni cyn y Nadolig”, meddai Neil Ferguson, ond ychwanegodd mai’r pethau pwysig yw pa mor hir fydd e’n parhau i ddyblu.

“Mae’n dechrau ar lefel isel iawn ac mae gennym ni lawer o imiwnedd yn y boblogaeth oherwydd brechlynnau a phobol wedi’u heintio yn y gorffennol.”

Mae’n anodd dweud ar hyn o bryd faint o’r achosion fydd yn gorfod cael gofal mewn ysbytai, meddai, “ond mae’n hollol bosib y gallwn ni weld trydedd don sydd o leiaf rhywbeth tebyg yn nhermau derbyniadau i ysbytai, efallai ddim mor ddifrifol, â’r ail don”.

“Dw i’n meddwl y bydd marwolaethau mwy na thebyg yn is, bron yn sicr – ond gallai fod yn eithaf pryderus.”

“Torri’r cysylltiad”

Dangosa data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 83% o bobol yng Nghymru yn cynhyrchu gwrthgyrff yn yr wythnos yn dechrau ar 17 Mai.

Golyga hyn eu bod nhw, fwy na thebyg, wedi cael eu heintio â Covid-19 yn y gorffennol – neu wedi cael eu brechu.

Heddiw (9 Mehefin), dywedodd Prif Weithredwr Cyflenwyr y Gwasanaeth Iechyd, Chris Hopson, fod ysbytai mewn llefydd lle mae clystyrau o achosion yn gweld nifer “sylweddol is” o bobol yn marw o’r feirws.

Dywedodd fod yna beth hyder fod y brechlynnau wedi “torri’r cysylltiad” rhwng achosion a “lefel uchel iawn o dderbyniadau i ysbytai a marwolaethau”.

“Mae’n bwysig peidio canolbwyntio ar y rhifau amrwd yma, mae’n rhaid i chi edrych hefyd ar bwy sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, a pha mor fregus ydyn nhw’n glinigol,” meddai Chris Hopson wrth Times Radio.

“Yr hyn y mae prif weithredwyr yn ei ddweud yn gyson yw mai poblogaeth ieuengach o lawer sy’n dod, maen nhw’n llai bregus yn glinigol, mae ganddyn nhw lai o angen gofal dwys, ac felly maen nhw’n gweld … graddfa farwolaeth sylweddol is – sydd, wyddoch chi, yn cael ei brofi drwy’r ystadegau.”

Galw ar y cyhoedd i “ymddwyn yn synhwyrol a gofalus” er mwyn osgoi cyfyngiadau llymach

“Dw i’n meddwl os fydd y cyhoedd yn ymddwyn yn synhwyrol a gofalus ac ein bod yn parhau i lacio’r cyfyngiadau yn ofalus yna gallwn osgoi hynny”