Mae Aelod o’r Senedd wedi croesawu “ymrwymiad positif” gan y Gweinidog Iechyd i roi ystyriaeth i ddefnyddio goleuadau uwchfioled (UV-C) fel modd o ddiheintio.
Yn siarad yn y Cyfarfod Llawn heddiw dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, bod cynlluniau ar y gweill yn Iwerddon i gael ystafelloed di-haint mewn ysgolion trwy ddefnydd UV-C.
Ac ategodd bod gan gynghorau Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn (dau gyngor Plaid Cymru/annibynnol) awydd i beilota defnydd golau mewn ysgolion fel modd o ddiheintio.
Byddai angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal y fath beilot, ac mi holodd am ymrwymiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
“Mae’n rhaid i ni ddysgu byw â’r feirws yma”
Roedd yntau’n hapus â’r ateb a gafodd ganddi yng Nghyfarfod Llawn y Senedd brynhawn heddiw.
“O ran y syniad yma o UV-C, dw i ddim yn ymwybodol ein bod wedi edrych mewn iddo mewn unrhyw fanylder eto,” meddai Eluned Morgan.
“Ond dw i’n hapus i fynd i ffwrdd ac edrych ar hynny … Nawr yw’r amser i ni sicrhau bod ysgolion yn agor eu ffenestri. Ac yn defnyddio’r cyfle yna.
“Bydd pethau’n wahanol iawn erbyn y gaeaf, a phwy a ŵyr pa sefyllfa byddwn ni ynddi yr amser yna.
“Felly mae hi’n rhywbeth dw i’n meddwl sydd yn werth edrych i mewn iddi – hynny yw, sut ydym ni’n mynd i helpu’r sefyllfa. Achos mae’n rhaid i ni ddysgu byw â’r feirws yma.”
Mae golau uwchfioled cryf yn medru lladd firysau, ac mae eisoes wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl cyd-destun yn ystod yr argyfwng hwn – ysbytai a maes awyr, er enghraifft.
“Llwyth gwaith sylweddol”
Wrth ymateb i gwestiwn gan Russell George, llefarydd grŵp y Ceidwadwyr ar iechyd, mi rannodd Eluned Morgan rywfaint o wybodaeth am gyllid gwerth £1bn a fydd yn mynd at y GIG i helpu ag adfer o covid.
Dywedodd ei bod wedi gofyn i awdurdodau iechyd gyflwyno cynigion ynghylch sut y dylid mynd i’r afael â’r rhestrau o gleifion sydd yn dal i aros am wasanaeth.
Ac eglurodd bod y cynigion hynny wrthi’n cael eu dadansoddi gan ei swyddogion.
“Mae yna lwyth gwaith sylweddol nad ydym wedi delio ag ef, ac y bydd yn rhaid delio ag ef,” meddai. “A rhaid bod yn onest – dydyn ni ddim eto ar ben arall y pandemig.
“Mae yna rwystrau difrifol o hyd ar ein gallu i ddychwelyd at wasanaeth normal.”