Mae saith o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i’r heddlu ganfod dau gerbyd yn teithio ger uwchgynhadledd y G7 oedd yn cynnwys paent a grenadau mwg.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod swyddogion wedi stopio dau gerbyd ger Ffordd Loggans yn Hayle – tua saith milltir o Westy Carbis Bay, ble mae gwleidyddion y gynhadledd yn aros.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi edrych drwy’r cerbydau tua 5 b’nawn Iau (10 Mehefin), gan ddarganfod yr eitemau y tu mewn.
Cafodd dyn 30 oed o Lundain, dynes 21 oed o Gymru a dyn 20 oed o Bournemouth eu harestio ar amheuaeth o feddiannu gwrthrychau gyda’r bwriad o gyflawni difrod troseddol.
Cafodd dau ddyn 25 a 27 oed o Lundain, dynes 45 oed o Lundain a dynes 26 oed o Epsom eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflawni niwsans cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y saith yn dal i fod yn nalfa’r heddlu.
“Mae’r eitemau a’r cerbydau wedi cael eu hatafaelu gan yr heddlu fel rhan o ymchwiliadau parhaus mewn perthynas â’r mater hwn,” meddai.
“Rydym yn parhau i gefnogi hwyluso protest ddiogel a chyfreithiol ond ni fydd gweithgarwch troseddol ac anhrefn gyhoeddus yn cael eu goddef.”