Bydd deudydd o ddigwyddiadau rhithwir yn cael eu cynnal ddiwedd y mis er mwyn annog pobol fenywaidd ac anneuaidd ifanc ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ystyried gyrfa yn y Geowyddorau.

Nod ‘Genod i’r Geowyddorau’ yw cyflwyno myfyrwyr ifanc sydd ar fin gorffen yr ysgol uwchradd i astudio a dilyn gyrfa yn y maes.

Geowyddorau yw’r astudiaeth o orffennol, presennol a dyfodol y Ddaear, ac mae’n cynnwys ystod eang o arbenigedd i bob rhan o’r gwyddorau.

Mae’r astudiaeth yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o systemau biolegol, hydrolegol, daearegol, ac ecolegol cymhleth y Ddaear, a’r modd y maen nhw’n cyd-blethu.

Genod i’r Geowyddorau

Cafodd Genod i’r Geowyddorau ei lansio yn 2014, ac fe wnaeth Dr Marie Busfield o Brisygol Aberystwyth lansio Genod i’r Geowyddorau Cymru yn 2019, gan helpu i ehangu’r fenter i gynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Mae’r digwyddiad yn dod â menywod o’r diwydiant, cyrff llywodraethol, y byd academaidd, ac ysgolion uwchradd ynghyd i hyrwyddo geowyddoniaeth a’i botensial fel pwnc.

Anaml y mae’r pwnc yn cael ei gynnig mewn ysgolion, ond mae agweddau ohono’n cael ei ddysgu mewn pynciau fel cemeg, biogel, ffiseg a daearyddiaeth.

Gall mynychwyr edrych ymlaen at ddetholiad amrywiol o siaradwyr yn sôn am eu gyrfaoedd, a bydd cyfres o sesiynau holi ac ateb yn ymdrin â phynciau megis bywyd yn y maes, gyrfaoedd, a bywyd prifysgol.

Mae’n bosib i fynychwyr ddewis o blith llu o deithiau maes rhithwir, o’r Himalaya i Ynys Skye, a gweithdai sy’n edrych ar rewlifoedd Periw, peryglon naturiol, microffosilau, newid hinsawdd, a daeareg fforensig.

“Amrywiol a phwysig”

“Mae Geowyddoniaeth yn bwnc mor amrywiol a phwysig, gan gyfuno cymaint o wahanol elfennau cemeg, ffiseg, bioleg, gwyddor yr amgylchedd, daearyddiaeth a daeareg, a gyda rôl hanfodol wrth ofalu am ddyfodol ein planed,” meddai Dr Marie Busfield o Brifysgol Aberystwyth, un o drefnwyr y digwyddiad.

“Rwy’n llawn cyffro am ymuno â’n rhwydwaith Genod i’r Geowyddorau sy’n parhau i dyfu eto eleni er mwyn cynnig rhaglen anhygoel o sgyrsiau am ddim, gweithdai, panelau a theithiau maes gan arweinwyr anhygoel yn y maes er mwyn dangos rhyfeddodau byd y geowyddorau.”

200 wedi mynychu llynedd

“Roeddem wrth ein boddau bod mwy na 200 o ferched wedi cymryd rhan yn y digwyddiad y llynedd, er ei fod yn gyfan gwbl ar-lein,” meddai Dr Amanda Owen, darlithydd mewn gwaddodeg sydd wedi cynorthwyo gyda chyfraniad Prifysgol Glasgow tuag at y digwyddiad yn y gorffennol.

Mae hi’n rhan o’r pwyllgor trefnu gyda thimau Genod y Geowyddorau o Brifysgol Plymouth, Prifsygol Aberystwyth, Prifysgol Leeds, a’r ganolfan iCRAG yn Iwerddon.

“Mae’n dangos bod menywod ifanc ledled y DU eisoes yn chwilfrydig am yrfaoedd mewn geowyddoniaeth, ac mae’n wych bod mynd â’r digwyddiad i’r byd rhithwir wedi caniatáu inni gyrraedd llawer mwy o ferched nag y byddem wedi gallu ei wneud gydag unrhyw un o’n digwyddiadau blaenorol a gafodd eu cynnal wyneb yn wyneb.”

Bydd y digwydd eleni’n cael ei gynnal ar-lein ar 28 a 29 Mehefin, ac mae’n bosib cofrestru yma.