Mae bron i 30,000 o achosion o’r amrywiolyn Delta wedi eu cofnodi yng ngwledydd Prydain yn yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr heddiw (11 Mehefin) fod 42,323 o achosion o’r amrywiolyn Delta, a gafodd ei ddarganfod gyntaf yn India, wedi cael eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig bellach, cynnydd o 29,892 ers yr wythnos flaenorol.
Erbyn hyn mae 184 achos o’r amrywiolyn wedi’u cadarnhau yng Nghymru, 43 yng Ngogledd Iwerddon, 3,035 yn yr Alban, a 39,061 yn Lloegr.
Ychwanegodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod y cynnydd mewn achosion Delta yn uchel ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig, gydag amcangyfrifon rhanbarthol yn awgrymu fod yr amser dyblu rhwng 4 diwrnod a hanner ac 11 diwrnod a hanner.
Mae’r cynnydd mewn achosion ers wythnos diwethaf yn rhannol oherwydd ei bod hi’n cymryd llai o amser i gael canlyniadau profion, a bod proses gyflymach ar gyfer adnabod yr amrywiolyn, meddai’r corff.
Bellach, yr amrywiolyn Delta yw 90% o’r achosion newydd o Covid-19, gydag ymchwil newydd yn awgrymu ei fod ynghlwm â chynnydd o tua 60% yn y risg o’i ledaenu o fewn y cartref, o gymharu ag amrywiolyn Alffa, a gafodd ei ddarganfod yng Nghaint.
Brechlynnau yw’r “prif warchodaeth”
“Gydag achosion o amrywiolyn Delta ar gynnydd dros y wlad, brechlynnau yw ein prif warchodaeth,” meddai Dr Jenny Harries, Prif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig.
“Os ydych chi’n gymwys, rydyn ni’n eich annog chi i ddod ymlaen a chael eich brechu. Cofiwch fod dau ddos yn cynnig gwarchodaeth llawer mwy sylweddol nag un dos.
“Gyda data yn dangos fod Delta yn llawer mwy trosglwyddadwy nag Alffa, mae hi’r un mor bwysig ag erioed i ddilyn cyngor iechyd cyhoeddus, sydd heb newid.
“Cymerwch y brechlyn, gweithio o adre lle mae hynny’n bosib, a chofiwch ‘dwylo, wyneb, lle, awyr iach’ trwy’r amser. Mae’r mesurau hyn yn gweithio, ac maen nhw’n achub bywydau.”