Mae Arweinydd y Ceidwadwyr wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r newidiadau i gyfyngiadau covid mewn modd sy’n galluogi’r Senedd i’w trafod yn brydlon – “nid dyddiau ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno”.

Yn ôl Andrew RT Davies, nid oes cyfle “amserol” i graffu ar y penderfyniadau cyn eu bod nhw’n cael eu cyflwyno.

“O ystyried yr effaith barhaus ar fywoliaethau, ni ddylai cyhoeddiadau o’r fath gael eu gwneud gan osgoi’r Senedd,” meddai.

Daw ei sylwadau wedi i Mark Drakeford gyhoeddi neithiwr (17 Mehefin) y bydd e’n oedi am bedair wythnos cyn llacio mwy ar y cyfyngiadau.

O fewn y pedair wythnos nesaf, cyn yr adolygiad nesaf ar Orffennaf 15, bydd mân newidiadau, a bydd digwyddiadau peilot yn cael parhau.

Ymhlith y newidiadau bach, bydd nifer y bobol sy’n cael mynd i briodasau, seremonïau partneriaeth sifil, neu de angladd dan do yn dibynnu ar faint y lleoliad, a bydd lleoliadau cerddoriaeth neu gomedi byw yn cael gweithredu fel caffis a thafarnau.

Craffu’n “amserol”

“Ar ôl sawl sesiwn friffio gyda’r Wasg, nid yw’r cyhoeddiad hwn yn syndod,” meddai Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr, wrth drafod yr oedi ar lacio.r rheolau.

“Dw i’n falch fod gweinidogion Llafur wedi gwrando ar alwadau’r Ceidwadwyr Cymreig ac wedi rhoi eglurdeb gwell a hyblygrwydd i ddigwyddiadau mawr bywyd megis priodasau, a fydd yn dod a pheth ryddhad i gyplau sy’n cynllunio ar gyfer eu diwrnod mawr.

“Yn wyneb y cyfyngiadau parhaus, bydd busnesau Cymreig angen mwy o gefnogaeth ariannol a dw i’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn egluro pa gyllid ychwanegol fydd ei lywodraeth yn ei chynnig er mwyn amddiffyn swyddi Cymreig.

“Ac o ystyried yr effaith barhaus ar fywoliaethau, ni ddylai cyhoeddiadau o’r fath gael eu gwneud gan osgoi’r Senedd.

“Yn gynharach yr wythnos hon, galwodd llefarydd San Steffan, Lindsay Hoyle, ar weinidogion i’r Senedd fel eu bod nhw’n gallu craffu ar y cyhoeddiadau, ac roedd e’n iawn i wneud hynny.

“Yn anffodus, yng Nghymru, mae’r Llywodraeth Lafur hon yn mwynhau’r rhwydd hynt i reoli. I’r Senedd wneud ei gwaith yn effeithiol a bod yn berthnasol, rhaid craffu ar y cyhoeddiadau hyn yn amserol, nid dyddiau ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi cefnogaeth bellach i fusnesau fydd yn parhau i gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau ddydd Llun,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, rydyn ni’n edrych ar ba gefnogaeth bellach allai fod angen ar fusnesau.

“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi cynnig mwy na £2.5 biliwn i gefnogi busnesau Cymreig – pecyn sydd wedi’i ddylunio i gwblhau ac adeiladu ar gymorth sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae’r agwedd wedi’i thargedu hon, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi busnesau bach a chymunedau Cymreig, wedi helpu i amddiffyn cannoedd ar filoedd o swyddi Cymreig, a allai fod wedi’u colli.

“Yn wahanol i Loegr, rydyn ni wedi sicrhau rhaglen egwyl 100% ar gyfraddau busnesau manwerthu, lletygarwch, ac adloniant a fydd yn rhedeg am 12 mis, gan gynnig lle hanfodol i tua 70,000 o fusnesau anadlu.

“Dydyn ni ddim yn ymddiheuro o gwbl am siarad yn uniongyrchol â’r cyhoedd ynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

“Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau’r Senedd am y penderfyniad heddiw, a bydd ar gael i ateb cwestiynau am y pandemig, ac amrywiolyn Delta, yn y Senedd wythnos nesaf, a phob wythnos.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £2.5 miliwn o gefnogaeth ychwanegol wedi’i chyhoeddi ar gyfer busnesau’r wythnos ddiwethaf, a bod busnesau sydd â throsiant blynyddol o lai na £85,000 yn gallu gwneud cais am y Gronfa Cadernid Economaidd drwy eu hawdurdodau lleol.

Oedi am bedair wythnos cyn llacio’r cyfyngiadau Covid-19

Daw hyn yn sgil bygythiad amrywiolyn Delta, sydd i’w weld yn ymledu trwy gymunedau