Mae Iran wedi dechrau pleidleisio mewn etholiad arlywyddol, sy’n debygol o fynd o blaid protégé y Goruchaf Arweinydd Ayatollah Ali Khamenei.

Mae arolygon barn sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth yn awgrymu mai pennaeth y farwniaeth, Ebrahe Raisi, yw’r ceffyl blaen mewn etholiad sy’n cynnwys pedwar ymgeisydd yn unig.

Mae cyn-bennaeth y Banc Canolog, Abdolnasser Hemmati, yn cael ei tsyried yn ymgeisydd cymedrol ond nid yw wedi ysbrydoli’r un gefnogaeth â’r Arlywydd Hassan Rouhani.

Os caiff ei ethol, Ebrahe Raisi fyddai’r Arlywydd cyntaf sydd â sancsiynau yn ei erbyn gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau.

Mae’r sancsiynau yn ymwneud â’i rôl wrth ddienyddio carcharorion gwleidyddol yn 1988, yn ogystal â’i amser fel pennaeth y farnwriaeth, sydd wedi cael ei feirniadu yn rhyngwladol fel un o brif ddienyddwyr y byd.

Mae tensiynau’n parhau i fod yn uchel gyda’r Unol Daleithiau ac Israel.

Mae lle i gredu fod Israel wedi cynnal cyfres o ymosodiadau gan dargedu safleoedd niwclear Iran, yn ogystal â llofruddio’r gwyddonydd a greodd raglen atomig filwrol y wlad ddegawdau yn gynharach.

Agorodd gorsafoedd pleidleisio am saith y bore ar gyfer yr etholiad, sydd wedi gweld panel o dan Ayatollah Ali Khamenei yn gwahardd cannoedd o ymgeiswyr.

Disgwyl cyfradd bleidleisio isel

Mae Ayatollah Ali Khamenei wedi annog y cyhoedd i bleidleisio yn sgil awgrymiadau y bydd y gyfradd bleidleisio yn isel eleni.

“Drwy gyfranogiad y bobol bydd y wlad a’r system rheoli Islamaidd yn ennill pwyntiau mawr yn y maes rhyngwladol, ond y rhai sy’n elwa’n gyntaf yw’r bobol eu hunain,” meddai Ayatollah Ali Khamenei.

“Ewch amdani, dewiswch a phleidleisiwch.”

Mae dros 59 miliwn o bleidleiswyr cymwys yn Iran, cenedl sy’n gartref i dros 80 miliwn o bobol.

Fodd bynnag, mae Asiantaeth Pleidleisio Myfyrwyr Iran, sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth, wedi amcangyfrif mai dim ond 42% fydd yn pleidleisio, sef yr isaf ers Chwyldro Islamaidd 1979.

“Nid yw hyn yn dderbyniol”

Fel y Goruchaf Arweinydd, Ayatollah Ali Khamenei sy’n gwneud penderfyniadau terfynol ar bob mater sy’n ymwneud â’r wladwriaeth ac mae’n goruchwylio rhaglen amddiffyn ac atomig y wlad.

“Nid yw hyn yn dderbyniol,” meddai’r cyn-Arlywydd Mohammad Khatami, a geisiodd newid y system o ethol Arlywydd Iran yn ystod ei wyth mlynedd yn y swydd.

“Sut mae hyn yn cydymffurfio â bod yn weriniaeth neu’n Islamaidd?”

Fodd bynnag, mewn araith ddydd Mercher (16 Mehefin), rhybuddiodd Ayatollah Ali Khamenei am “gynllwyniai tramor” sy’n ceisio lleihau’r nifer o bobol sy’n pleidleisio.