Mae disgwyl i gefnogwyr yr Alban a Lloegr brynu 3.4 miliwn o beintiau yn ystod eu gêm yn Ewro 2020 heno (nos Wener, 18 Mehefin).

Dyma’r tro cyntaf ers chwarter canrif i’r ddwy wlad chwarae yn erbyn ei gilydd mewn twrnament rhyngwladol – y tro diwethaf oedd Ewro 1996.

Mae Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain (BBPA) yn amcangyfrif y bydd 14.8 miliwn o beintiau yn cael eu gwerthu ledled Lloegr a’r Alban heddiw (dydd Gwener, 18 Mehefin), gyda dros 3 miliwn yn cael eu gwerthu yn ystod y gêm ei hun.

Ond rhybuddiodd y gymdeithas y bydd gwerthiant cwrw yn 850,000 peint yn llai nag arfer, oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Bydd hyn yn arwain at dafarndai ledled Lloegr a’r Alban yn colli tua £3.2 miliwn o refeniw, meddai’r Gymdeithas.

“Os ydych chi’n cefnogi Lloegr neu’r Alban, does dim byd yn curo gwylio’r gêm yn y dafarn,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain Emma McClarkin.

“O ystyried bod tafarndai wedi bod ar gau neu wedi wynebu cyfyngiadau am fwy na blwyddyn yn Lloegr a’r Alban, mae’n hanfodol eu bod yn cael help er mwyn iddyn nhw adfer a goroesi.

“Rhaid dileu’r holl gyfyngiadau ar dafarndai yn Lloegr a’r Alban cyn gynted â phosibl er mwyn i’n sector oroesi ac adfer.”

Canfu arolwg o 1,000 o bobol gan y BBPA a KAM Media fod 85% o gefnogwyr pêl-droed sy’n mynd i dafarndai yn credu y bydd y cyfyngiadau presennol yn effeithio’n negyddol ar eu profiad o wylio Ewro 2020 mewn tafarn yr haf hwn.

Dywedodd hanner y rhai holwyd y bydden nhw’n fwy tebygol o wylio mewn tafarn pe bai’r holl gyfyngiadau ar dafarndai yn cael eu codi.

Ond dywedodd 91% o gefnogwyr pêl-droed eu bod wedi gweld eisiau gwylio gemau yn y dafarn yn ystod y cyfyngiadau symud.

Ers mis Mawrth 2020, mae Cymdeithas Gwrw a Thafarndai Prydain wedi amcangyfrif bod 2,000 o dafarndai wedi cau’n barhaol, a chollwyd y cyfle i werthu dros 2.1 biliwn o beintiau cwrw oherwydd cau neu gyfyngiadau Covid-19, sy’n cyfateb i £8.2 biliwn mewn gwerth masnachol.