Mae’r gwasanaethau brys yn annog pobol leol i aros yn eu cartrefi, ac i gau drysau a ffenestri eu tai fel rhagofal yn dilyn tân sylweddol ar safle ailgylchu yng Nghlydach ger Abertawe.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i safle ailgylchu DBC Recycling am 12:09yp heddiw (dydd Llun, Mehefin 21).

Cafodd Heddlu De Cymru wybod am y tân ar Ystad Ddiwydiannol Players am oddeutu 12:15yp, ac mae plismyn yno yn helpu’r gwasanaeth tân gyda’r sefyllfa.

“Rydyn ni’n delio â thân mawr ar Ystad Ddiwydiannol Players yng Nghlydach,” meddai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol yn yr ardal aros tu mewn, a chadw eu ffenestri a’u drysau ar gau.”

Yn ôl adroddiadau, mae’r tân i’w weld o’r draffordd gyfagos.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi achosi’r tân.

“Fe wnaethon ni fynychu’r digwyddiad fel rhagofal gydag ein Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus er mwyn cynorthwyo criwiau tân,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans.

“Ni chafodd yr un ambiwlans ei gyrru yno.”