Mae Aelod Seneddol mwyaf newydd San Steffan wedi tyngu llw yn Gymraeg ac yn Saesneg wrth gael ei derbyn i’r swydd.

Ac mae Sarah Green, sy’n enedigol o Gorwen, wedi dechrau ei chyfnod gyda rhybudd i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fod ei “Wal Las” yn y fantol.

Roedd ei sedd yn Chesham ac Amersham, hen sedd y ddiweddar Cheryl Gillan, wedi bod yn nwylo’r Ceidwadwyr ers 1974, ond llwyddodd Sarah Green i sicrhau buddugoliaeth swmpus annisgwyl i’r Democratiaid Rhyddfrydol – gyda mwyafrif o 8,028 er bod y Ceidwadwyr wedi ennill â mwyafrif o fwy nag 16,000 yn 2019.

Yn y gorffennol, gwnaeth Sarah Green, cyn-fyfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, sefyll yn etholaeth Ynys Môn yn etholiad cyffredinol 2005 gan orffen yn bumed, ac yn Arfon yn 2010 gan orffen yn bedwerydd.

Mae hi wedi addo bod yn “ddraenen yn ystlys” HS2, er bod ei phlaid yn gefnogol i’r cynllun rheilffyrdd dadleuol sy’n torri trwy ei hetholaeth.

Yn ôl Syr Ed Davey, arweinydd y blaid, bydd Sarah Green yn dangos “gwir angerdd dros yr amgylchedd”.

“Cafodd hi ei magu ger Eryri, mewn ardal wledig yng ngogledd Cymru, a dw i’n credu mai dyna lle mae ei hangerdd am yr amgylchedd yn dod,” meddai.

“Felly dw i’n credu bod pobol Chesham ac Amersham wedi pleidleisio’n ddoeth.”

Gwyliwch Sarah Green yn tyngu llw yma.

Llywodraeth dan bwysau i ailfeddwl cyn llacio deddfau cynllunio yn Lloegr ar ôl sioc is-etholiad

Amheuon fod y Llywodraeth am roi penrhyddid i ddatblygwyr a bod hyn wedi cyfrannu at golli etholaeth cyn-ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan
Logo'r Democratiaid Rhyddfrydol

Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio sedd sydd wedi bod yn nwylo’r Ceidwadwyr ers 1974

Y blaid wedi ennill sedd Chesham ac Amersham mewn isetholiad yn dilyn marwolaeth y Fonesig Cheryl Gillan