Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson dan bwysau cynyddol i ailfeddwl ynghylch bwriadau’r Llywodraeth i lacio deddfau cynllunio yn Lloegr.
Daw hyn yn sgil cred gynyddol fod pryderon am ddatblygwyr yn cael penrhyddid i godi tai wedi cyfrannu at golli sedd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr is-etholiad ddydd Iau.
Roedd etholaeth Chesham ac Amersham yn Swydd Buckingham wedi bod yn gadarnle i’r Torïaid ers iddi gael ei chreu yn 1974, ac roedd gan y ddiweddar Cheryl Gillan fwyafrif o 16,233 yn yr etholiad diwethaf.
Mae targedau’r Llywodraeth ar gyfer tai newydd i’w codi wedi bod yn bwnc llosg yn yr etholaeth gydag ofnau y bydd yn arwain at ddifetha cefn gwlad o amgylch bryniau’r Chilterns.
Gyda’r Llywodraeth ar fin cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud yn haws i ddatblygwyr gael caniatâd cynllunio, mae Torïaid blaenllaw bellach ymhlith y rheini sy’n galw arnyn nhw i bwyllo.
“Roedd pryderon ynghylch cynllunio ac HS2 [mae’r rheilffordd newydd yn torri trwy’r etholaeth] yn uchel a chlir,” meddai cyd-gadeirydd y Blaid Geidwadol, Amanda Milling.
“Does dim dwywaith fod yr ergyd hon yn rhybudd i’r Llywodraeth.”
Mae’r cyn-ysgrifennydd amgylchedd Theresa Villiers yn pwyso ar weinidogion i “i ailfeddwl eu hagweddau at ddiwygio cynllunio” mewn erthygl ym mhapur newydd y Telegraph.
“Dylai canlyniad yr is-etholiad arwain y ffordd at leihau targedau codi tai ar gyfer maestrefi Llundain yn ne-ddwyrain Lloegr,” meddai.
“Mae angen dosbarthiad tecach o gartrefi newydd ledled y wlad, yn hytrach na cheisio gwasgu miloedd yn fwy i dde Lloegr, sy’n orlawn. Mae angen mwy o bwyslais ar safleoedd tir llwyd mewn ardaloedd dinesig.”
Ar ôl buddugoliaeth ysgubol y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth ddydd Iau, cyfaddefodd Boris Johnson fod hyn “yn sicr yn ganlyniad siomedig iawn”.
Cafodd y sedd ei chipio gyda dros 8,000 o fwyafrif gan Sarah Green, Cymraes sy’n wreiddiol o Corwen yn Sir Ddinbych, ac fu’n ymgeisydd seneddol yn etholaethau Ynys Môn yn 2005 ac Arfon yn 2010.
Daeth Llafur yn bedwerydd gyda dim ond 622 o bleidleisiau. Yn ôl yr arbenigwr Syr John Curtice, dyma’r perfformiad gwaethaf gan Lafur mewn unrhyw is-etholiad wrth ennill 1.6% o’r bleidlais.