Mae mab ditectif preifat o Gymru a gafodd ei lofruddio yn Llundain yn dweud ei fod wedi colli pob hyder yn Heddlu Llundain.
Daw hyn ar ôl i adroddiad gan banel annibynnol gyhuddo Heddlu Llundain o “ffurf o lygredd sefydliadol” wrth guddio neu wadu methiannau i ddatrys llofruddiaeth Daniel Morgan.
Roedd y ditectif a oedd yn wreiddiol o Gwmbran wedi cael ei ladd â bwyell ym maes parcio tafarn y Golden Lion yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain ym mis Mawrth 1987.
Er gwaethaf pum ymchwiliad gan yr heddlu a chwest, chafodd neb ei ddal, gyda’r heddlu’n cyfaddef llygredd yn yr ymchwiliad gwreiddiol yn 2011 i’r llofruddiaeth.
Mae mab Daniel Morgan, sydd hefyd o’r enw Daniel, a oedd yn bedair oed pan fu farw ei dad, wedi beirniadu’r heddlu am beidio â derbyn canfyddiadau’r adroddiad.
“Mae’n drasiedi personol i ni ac yn gywilydd cenedlaethol,” meddai.
“Mae’n anodd ymfalchïo mewn bod yn Llundeiniwr pan fo pobl sy’n ein hamddiffyn ni wedi methu, yn cael eu galluogi i fethu, a phan nad oes canlyniadau i’r methiannau hynny.”
Er bod Comisiynydd Heddlu Llundain, y Fonesig Cressida Dick, wedi gresynu at gamgymeriadau’r heddlu, mae hi wedi gwrthod canfyddiadau’r adroddiad ac wedi amddiffyn gwaith Scotland Yard a’i swydd.
“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi clywed digon o ymddiheuriadau,” meddai Daniel Morgan y mab wrth ymateb. “Dydi’r hyn mae hi wedi’i ddweud ddim wedi rhoi sail inni fod yn hyderus y gallan nhw wneud y gwaith mae’r ddogfen yn galw amdano.
“Dw i ddim yn gweld Heddlu Llundain fel sefydliad credadwy ac mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn gwneud imi deimlo’n bod nhw’n llai credadwy fyth.
“Ac a dweud y gwir, mae hyn yn fy ngwneud i’n flin.
“Dw i’n meddwl y dylai’r Comisiynydd ystyried ei sefyllfa.
“Mae llawer o hyn wedi digwydd cyn iddi fod yn gomisiynydd ond mae hi’n barhad o’r un diwylliant.”