Mae Aelod Seneddol Torïaidd yn wynebu achos yn Llys y Goron ar gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fachgen 15 oed yn 2008.

Mewn datganiad, dywed Imran Ahmad Khan, AS Wakefield yn Swydd Efrog, ei fod yn gwadu’r honiad yn llwyr, gan fynnu nad yw wedi gwneud dim o’r fath.

Roedd Ahmad Khan yn un o’r rheini a helpodd ennill mwyafrif mawr i Boris Johnson trwy gipio’r etholaeth yn ‘wal goch’ Llafur yng ngogledd Lloegr yn etholiad cyffredinol 2019.

Dywed y Blaid Geidwadol eu bod wedi tynnu’r chwip oddi ar Ahmad Khan, sy’n golygu ei fod yn eistedd fel aelod annibynnol yn Nhŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd.

Ymddangosodd Ahmad Khan, sy’n 47 oed, gerbron llys ynadon Westminster trwy gyswllt fideo ddydd Iau, pryd y plediodd yn ddi-euog i’r cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar y bachgen a oedd yn ei arddegau ar y pryd.

Cafodd fechnïaeth ddiamod a bydd yn ymddangos gerbron yr Old Bailey ar 15 Gorffennaf.