Mae India yn galaru ar ôl colli un o arwyr mwyaf byd chwaraeon y wlad sydd wedi marw yn 91 oed.

Milka Singh, y ‘Flying Sikh’, oedd athletwr cyntaf India i ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad yn y ras 400m yn 1958. Cynyrchiolodd ei wlad deirgwaith yn y Gemau Olympaidd, yn 1956, 1960 a 1964, gan ddod yn bedwerydd yn y ras 400m yn Rhufain.

Roedd wedi goresgyn trasiedi yn ifanc pan gafodd ei rieni a’i frodyr a chwiorydd eu lladd yn yr ymladd a arweiniodd at ffurfio India a Pacistan fel dwy wlad ar wahân. Llwyddodd ef i ddianc i’r jyngl gan gyrraedd New Dehli yn ddiweddarach ac ymuno â’r fyddin.

Yn sgil ei lwyddiant ar y trac rasio flynyddoedd wedyn, daeth yn arwr cenedlaethol, ac mae ei stori fel pencampwr athletau cyntaf India wedi mynd yn rhan o chwedloniaeth y wlad.

Wrth arwain y teyrngedau iddo, meddai’r prif weinidog Narenda Modi:

“Roedd yn gawr ym myd chwaraeon, a gydiodd yn nychymyg ei genedl ac roedd ganddo le arbennig yng nghalonnau llu o Indiaid. Fe wnaeth ei bersonolaeth ysbrydoledig swyno miliynau.”

Fe fu farw o gymhlethdodau Covid-19 mewn Ysbyty yn ninas Chandigarh yng ngogledd y wlad yn hwyr neithiwr.