Fe wnaeth darllediadau o’r gêm Euro 2020 rhwng Lloegr a’r Alban neithiwr ddenu cynulleidfa o 13.1 miliwn ar gyfartaledd, y nifer mwyaf o wylwyr hyd yma yn y twrnameint.
Ar un adeg roedd 20 miliwn yn gwylio’r gêm ddi-sgôr lawn tyndra rhwng y ddwy wlad, gydag ITV a’i chwaer sianel STV yn denu 79% o holl wylwyr teledu Prydain ar y pryd.
Gosododd y gêm record ffrydio newydd hefyd i’r sianel, gyda 4.8 miliwn o ffrydiau rhwng ITV Hub ac STV Player.
Dyma’r gêm bêl-droed i ddenu’r mwyaf o wylwyr teledu yn nhermau niferoedd brig ers gêm gyn-derfynol Cwpan y Byd Lloegr yn erbyn Croatia yn 2018, a ddenodd 27.5 miliwn.
Roedd llawer o gefnogwyr Lloegr yn swnllyd o siomedig ar ddiwedd y gêm ddi-sgôr yn Wembley neithiwr, gan mai nhw oedd y ffefrynnau clir i ennill. Roedd cefnogwyr yr Alban ar y llaw arall ar ben eu digon ar ôl dal eu tir yn groes i’r disgwyl.
Bydd yn rhaid i’r Alban guro Croatia yr wythnos nesaf i fod â siawns o gyrraedd yr 16 olaf, tra bydd gêm gyfartal yn erbyn Tsiecia yn ddigon i sicrhau lle i Loegr.