Gallai pobl sydd cael cael dau frechiad Covid-19 osgoi gorfod hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi eu heintio.

Mae adroddiadau bod cynlluniau ar y gweill i gael gwared ar y cyfnod cwarantin 10 diwrnod a chael profion dyddiol i gymryd ei le yn fuan.

Mae’n ymddangos bod y Gweinidog Iechyd Matt Hancock yn awyddus i wneud hyn, ond na fydd y polisi’n cael ei gymeradwyo hyd nes bydd yr Athro Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr, yn fodlon gyda chanlyniadau astudiaeth o 40,000 o bobl.

Dywedodd Linda Bauld, athro iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin, mai dyma sydd eisoes yn digwydd yn America.

“Fe wnaeth y Canolfan Rheoli Clefydau newid eu canllawiau dro’n ôl i ddweud y gallai pobl sydd wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn, tua 10-14 diwrnod ar ôl yr ail ddos, osgoi gorfod hunan-ynysu, felly dw i’n meddwl ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad hwnnw,” meddai.

Dywedodd hefyd y gallai osgoi’r angen am hunan-ynysu hwyluso teithio rhyngwladol, ond bod yn rhaid i wledydd gytuno â’i gilydd ynghylch rheolau mynediad i bobl sydd wedi cael eu brechu.

“Er bod y syniad o basports brechu yn annerbyniol er mwyn cael mynd i’r dafarn leol er enghraifft, dydi hynny ddim mor ddadleuol ar gyfer teithio rhyngwladol,” meddai.

“Mae angen safon gyffredin fel sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda’r clefyd melyn, a bydd hynny’n helpu o ddifrif gyda theithio rhyngwladol yn y dyfodol.”