Mae cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi mynegi amheuon ynghylch faint o frwdfrydedd sydd yn Senedd yr Alban dros ail refferendwm ar annibyniaeth i’r wlad.

Mewn neges fideo a gafodd ei ffilmio y tu allan i Wembley cyn y gêm neithiwr, mae’n annog cefnogwyr ei blaid newydd Alba i ddal ati i bwyso ar lywodraeth yr SNP.

Roedd yr SNP wedi addo’n rheolaidd yn ystod ymgyrch yr etholiad y byddai’r blaid yn cynnal pleidlais arall ar y cyfansoddiad “pan fydd yr amser yn iawn”. Er hyn, teimlad llawer o gefnogwyr Alba – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n gyn-aelodau’r SNP – yw nad yw’r llywodraeth yn symud yn ddigon cyflym ar y mater.

Yn ei fideo, dywed Alex Salmond:

“Os gallwch gynnal Euro 2020, os gallwch gynnal etholiad yr Alban, ac os gallwch chi gynnal uwchgynhadledd y Cop26 yn Glasgow, yna pam ar y ddaear na allwch chi gynnal refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban?

“Efallai nad yw’r brwdfrydd angenrheidiol ddim yn i wthio’r achos yn ei flaen oherwydd bod y pwnc cyfansoddiadol wedi mynd yn oer ers yr etholiad a bod yn rhaid i ni ei ailgynnau.”

Cyhoeddodd hefyd y bydd cynhadledd gyntaf Alba yn cael ei chynnal ym mis Medi yn Greenock, a dywedodd y byddai gwanhau ym mholisi Llywodraeth yr Alban ar annibyniaeth yn arwain at fwy o gefnogaeth i’w blaid newydd.

“Os caiff ein hamheuon eu cadarnhau, yna pan ddaw Medi, bydd y gwynt o Afon Clud yn chwythu’n gryf i gyfeiriad Alban yn ein cynhadledd gyntaf hanesyddol yn neuadd y dref Greenock,” meddai.

Wrth ymateb, meddai llefarydd ar ran yr SNP: “Yr unig blaid yn yr Alban a all gyflawni annibyniaeth yw’r SNP.

“Unwaith y bydd y pandemig drosodd, bydd pobl yr Alban yn cael dewis ynghylch eu dyfodol, y dewis o roi eu dyfodol yn nwylo Boris Johnson neu eyne u dwylo eu hunain gydag annibyniaeth.”