Er nad yw ond yn ei swydd ers dydd Iau, bydd disgwyl i Brif Weinidog newydd Gogledd Iwerddon, Paul Givan, ymddiswyddo pan fydd y DUP yn ethol arweinydd arall i gymryd lle Edwin Poots.

Mae’r DUP wedi profi dau fis cythryblus ar ôl i’r cyn-arweinydd Arlene Foster ymddiswyddo ar ôl pwysau mewnol yn ei herbyn, ac ymddiswyddodd ei holynydd Edwin Poots hefyd nos Iau ar ôl dim ond tair wythnos yn ei swydd. Roedd wedi penodi Paul Givan yn brif weinidog am nad oedd eisiau gwneud y swydd ei hun.

Dioddefodd Edwin Poots wrthryfel yn ei blaid ei hun am fod mwyafrif ei aelodau seneddol yn erbyn cytuno i ethol llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon ar ôl i lywodraeth Prydain i ildio i alwad Sinn Fein am ddeddf iaith Wyddeleg.

Er hyn, does ar y DUP ddim eisiau gweld Paul Givan yn gadael ei swydd cyn i’r arweinydd nesaf gael ei ethol ac yn barod i benodi olynydd iddo.

Pe bai’n gadael cyn hynny, byddai terfyn amser o saith diwrnod i ethol Prif Weinidog ac ailenwebu Michelle O’Neill fel Dirprwy ar ran Sinn Fein. O fethu â chadw at hynny, byddai’n rhaid i lywodraeth Prydain alw etholiad ar fyr rybudd yng Ngogledd Iwerddon.

Y ceffyl blaen yn y ras i arwain y DUP ar hyn o bryd yw Aelod Seneddol Lagan Valley, Syr Jeffrey Donaldson, ond bydd yr ansicrwydd ynghylch prif weinidog yn parhau os caiff ei ddewis. Aelod Seneddol yn Llundain ydyw ac nid yw’n aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Byddai hynny’n golygu y byddai’n rhaid iddo benodi Prif Weinidog yn ei le.

Galw am ddiddymu’r Protocol masnach

Yn y cyfamser mae siaradwyr mewn rali yn erbyn Protocol Brexit ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi bod yn galw ar y DUP i beidio â phenodi Prif Weinidog nes bydd y trefniadau masnachu presennol wedi eu diddymu.

Daeth rhai cannoedd o bobl i’r rali brotest yn Newtownards, lle bu arweinydd plaid y Traditional Unionist Voice, Jim Allister yn ymosod yn hallt ar Edwin Poots ac yn galw ar y DUP i wrthod cydweithredu yn Stormont tra bydd y Protocol mewn grym.

“Yr hyn sydd ei angen yn Stormon yw i arweinydd newydd y DUP gael asgwrn cefn, a diswyddo’r Prif Weinidog,” meddai.

“Mae arno angen dweud wrth Brif Weinidog Prydain na fydd Prif Weinidog yng Ngogledd Iwerddon cyn belled ag y bydd Protocol.”

Dywed y Dirprwy Brif Weinidog Michelle O’Neill ei bod yn dal i ymrwymo i weithio gyda Paul Givan tra bydd yn ei swydd. Pwysodd ar y DUP i “gael eu tŷ mewn trefn” er mwyn sicrhau llywodraethu effeithiol yn Stormont.