Mae Robert Buckland, Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan sy’n enedigol o Lanelli, wedi cyhuddo cyn-Lefarydd Tŷ’r Cyffredin o leihau ei ddylanwad.

Daw hyn ar ôl i John Bercow symud o’r Ceidwadwyr at y Blaid Lafur.

Ac mae’n anghytuno’n “llwyr” â disgrifiad Bercow o’r Ceidwadwyr fel plaid “senoffobaidd”.

“Mae e’n ddinesydd preifat, mae ganddo fe’r hawl i wneud penderfyniadau am ei wleidyddiaeth a dw i’n parchu hynny,” meddai Robert Buckland wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky.

“Dw i’n credu fel cyn-Lefarydd ei fod e’n rywun, er ei fod e wedi gadael y swydd, sydd ag elfen o awdurdod fel ei ragflaenwyr a dw i’n credu bod dylanwad ei ragflaenwyr wedi’i gynyddu wrth iddyn nhw wrthod mynd yn ôl i wleidyddiaeth bleidiol.

“Ond dw i’n credu mai effaith gadael plaid wleidyddol yw ei fod e’n lleihau grym ei lais mewn gwleidyddiaeth, pa mor gryf bynnag mae am iddo fod.”