Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu cynnig a basiodd Cyngor Sir Ceredigion yr wythnos hon i fynnu gweithredu gan y Llywodraeth ar fater yr argyfwng tai yn y sir.
Yng nghyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau (17 Mehefin), pleidleisiodd Cyngor Sir Ceredigion yn unfrydol o blaid cynnig gan y Cynghorydd Mark Strong sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau i daclo’r argyfwng tai.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
- Ychwanegu cymal newydd i’r Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn orfodol i wneud cais cynllunio cyn cael yr hawl i drosi tŷ annedd yn dŷ haf neu uned gwyliau;
- Addasu’r fframwaith polisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal;
- Ei gwneud yn orfodol i berchennog ail gartref ofyn am ganiatâd cynllunio cyn trosi ail gartref yn fusnes gwyliau neu AirBnB.
Yn ddiweddar, gwnaeth adroddiad newydd ddeuddeg o argymhellion i Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru, a’i effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.
Cafodd awdur yr adroddiad, Dr Simon Brooks, ei gomisiynu gan Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg i wneud argymhellion polisi a chraffu ar faterion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi.
Un o brif ganfyddiadau adroddiad Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru yw bod problem ail gartrefi yn ffenomen ranbarthol a lleol yn bennaf.
“Ond yn ogystal a bod yn broblem ranbarthol, gall crynoadau o ail gartrefi fod yn broblem leol oddi mewn i ranbarthau a siroedd hefyd,” eglura Dr Brooks.
“O fewn siroedd fel Gwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Benfro, mae dosbarthiad ail gartrefi yn hynod anwastad, gyda rhai cymunedau arfordirol yn wynebu problem ddifrifol, a rhai ardaloedd trefol heb nemor ddim ail gartrefi.”
Fe gafodd y Gweinidog Tai, Julie James, ei chyhuddo o “israddio’r argyfwng” ail gartrefi gan ymgyrchwyr iaith ym mis Chwefror.
“Annheg”
“Rwy’n disgwyl i Mark Drakeford wrando’n astud iawn arnom ni heddiw ac i weithredu ar sail yr hyn yr ydym yn ei ddweud,” meddai’r Cynghorydd Mark Strong yn ystod y cyfarfod o’r Cyngor Sir.
“Mae’n bwysig fod pobol ifanc yn gallu cael cartref sefydlog eu hunain.
“Rwy’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonom yn byw mewn cartref sy’n sefydlog, y rhan fwyaf, os nad pawb, yn berchen ar eu tŷ eu hunain. Ond mae miloedd o bobol nawr yn dioddef y risg o beidio prynu tŷ drwy gydol eu hoes oherwydd cystadleuaeth mor annheg sy’n dod gan bobol gyfoethog iawn sy’n gallu prynu ail neu drydydd tŷ.”
“Problem genedlaethol”
Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith: “Mae’r argyfwng tai yn broblem anferth yng Ngheredigion ac mae’n dda gweld bod y Cyngor yn bwriadu gweithredu.
“Mae’n dda gweld hefyd bod ewyllys gwleidyddol yn bodoli ac yn deillio o arweinyddiaeth y Cyngor, gyda’i arweinydd Ellen ap Gwynn yn ei gwneud yn glir yng nghyfarfod diweddaraf y Cyngor fod angen gweithredu ar y mater hwn.
“Mae’r argyfwng yn broblem genedlaethol. Fel rhan o’n dogfen weledigaeth ar gyfer yr etholiad, ‘Mwy Na Miliwn’, rydyn ni’n cynnig amryw o bolisïau posib y gellid eu gweithredu i ddatrys y broblem.
“Yn ogystal â gweithredu galwadau Cyngor Sir Ceredigion, mae angen i’r Llywodraeth roi grymoedd llawn i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai, rheoli prisiau rhent fel eu bod yn fforddiadwy i bobl sydd ar gyflogau lleol a gosod uwch-dreth ar elw landlordiaid i fuddsoddi mewn dod â thai gweigion ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd cymunedau.
“Mae hefyd angen cyflwyno Deddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai i sicrhau cartrefi lleol i bawb. ”